FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31  
32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   >>   >|  
g a llon, I orffwys yn dawel eu pwys ar Ei fron,-- Pan godai yn erbyn pyrth uffern Ei gledd, Gan siglo sylfeini hen garchar y bedd,-- Dyrchafu yn hyfryd ber-seiniawl wnai'r gan, A bywiol orfoledd wnai'r nefoedd yn dan. Ond sydyn!--pan ydoedd pob telyn mewn hwyl, A'r udgyrn yn seinio fel ar uchel wyl,-- Wrth daro'r nod uchaf cydsyniai'r dorf hardd Ei weled E'n chwysu mewn ing yn yr ardd. Pan welwyd E'n gwaedu dan hoelion ar bren, Pan wanwyd Ei fynwes, pan glwyfwyd Ei ben, Pan yfodd E'r cwpan, pan gollodd fwynhad Diddanol gysuron gwedd wyneb Ei Dad; Pan gododd Cyfiawnder i'w erbyn Ei gledd, Pan welwyd E'n gorwedd yng ngharchar y bedd, Dyrysodd telynau cantorion y nef, Ymlaesodd pob aden, distawodd pob llef. Ar unwaith ymdaenodd tywyllwch fel llen Dros harddwych drigfauau dedwyddawl y nen; Cydwywodd y blodau, dadhwyliodd pob tant, Llesgaodd pob seraff--pob angel--pob sant. Ond bore'r adgodiad, ar doriad y dydd, Pan neidiodd y Cadarn o'i gadwyn yn rhydd, Gan ymdaith o Edom yn amlder ei rym, Mewn harddwisg borfforaidd, a'i gleddyf yn llym; Pan gododd hardd-faner trugaredd a hedd, Ac yn Ei law waedlyd agoriad y bedd, Gan floeddio'n fuddugol, "Enillais y dydd-- "Gorchfygais bob gelyn--daw'r caethion yn rhydd,"-- Mil myrdd o gantorion, yn gydsain eu llef, Ail-seinient yr Anthem, hwyl lawen trwy'r nef; Gan floeddio caniadau, mewn tonau mor ber, Nes siglo y bydoedd gan adsain y ser. Angylaidd osgorddion ehedent mewn brys I dywys eu Brenin i orsedd Ei lys; Ar balmant o berlau olwynai i'r nen, A'r seirian byrth oesawl ddyrchafent eu pen. 'Nol disgyn o'i gerbyd, ac esgyn Ei sedd, Ei euraidd deyrnwialen estynnai mewn hedd, Gan ddwyn agoriadau llywodraeth Ei Dad, Ac anfon i ddynion Ei roddion yn rhad. Rho heibio 'nawr, f'awen, cyn gorffen dy gan, Rhag boddi ar unwaith mewn syndod yn lan; Nid da cynnyg nofio--'rwyt eto'n rhy wan-- Mewn mor o ryfeddod, heb waelod na glan. I erfyn maddeuant, plyg 'nawr wrth Ei draed, Ymorffwys am fywyd ar rinwedd Ei waed; Cei ddianc ar fyrder o'th garchar o gnawd, I orffwys ym mynwes dy fwyn hynaf Frawd. Ei wyneb cu hardd-deg gei weled heb len; Ac yna, dan ganu, coroni Ei ben; Pan welir y ddaear yn wenfflam o dan, Mawr fydd dy orfoledd, a melus dy gan. AR FARWOLAETH MABAN. Daeth yma i'r byd i weld ein gwae, Lle mae gorthrymder garw; Ond trodd ei egwein lygaid draw, Gan godi 'i law a marw. Er dod am dro i'n daear ni I brofi'r cwpan chwe
PREV.   NEXT  
|<   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31  
32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   >>   >|  



Top keywords:

welwyd

 

floeddio

 
gododd
 

orffwys

 

garchar

 
unwaith
 

orfoledd

 

gorffen

 

ryfeddod

 

cynnyg


syndod
 

agoriadau

 
ddyrchafent
 

oesawl

 

gerbyd

 

disgyn

 

seirian

 
olwynai
 

Brenin

 

orsedd


berlau

 
balmant
 

roddion

 

ddynion

 

heibio

 
llywodraeth
 

euraidd

 
deyrnwialen
 
estynnai
 

waelod


FARWOLAETH
 

gorthrymder

 

egwein

 

lygaid

 

wenfflam

 

ddaear

 
rinwedd
 

fyrder

 

ddianc

 

Ymorffwys


maddeuant

 

coroni

 

mynwes

 
waedlyd
 
glwyfwyd
 

fynwes

 

gollodd

 

Diddanol

 

fwynhad

 

wanwyd