af o'u tyddyn yn dir gwlyb,
oer, melyn, cleiog, a phur dlawd. Yr oll a fedrent wneyd mewn cylch
blwyddyn o holl gynnyrch y ffarm oedd oddeutu 185 pounds; tra yr oedd y
talion--rhent, degwm, trethoedd, cyflogau, gwrteith au, porfa gaeaf, &c.,
&c., yn llawn 220 pounds. Ar ol llawer o lafur, ac o ludded, ac o
bryder, ac ar ol rhes o ffeiriau pur farw a digalon, darfu i John Careful
un bore rhent anturio crybwyll wrth y steward nad oedd dim modd iddo yn
wir wneuthur y talion o'r ffarm. Edrychodd y steward yn ddu ac yn llym
arno, ac atebodd yn bur sychlyd y dylai wneyd mwy o'r ffarm: ei fod ef
wedi darllen rywbryd yn ddiweddar, mewn rhyw bapyr newydd, am ryw ffarmwr
yn rhywle, ag oedd yn talu llawer mwy o rent nag oedd ef yn dalu, a hynny
am ffarm lai na'i ffarm ef; ac ychwanegodd y byddai yn hawdd iddo osod
Cilhaul Uchaf am rent uwch na'r rhent presennol. Wrth glywed y steward
yn siarad mor graslyd, ac wrth ei weled yn edrych mor gibog, dywedodd
John Careful dan grynnu, a'i wefusau yn gwynnu, ei fod ef a'i deulu yn
awyddus i wneyd eu goreu; ac yna, heb yngan sill yn ychwaneg, ymgiliodd
allan o'r ystafell yn wysg ei gefn, dan fowio i'r steward yn y dull
gostyngeiddiaf. Parhodd geiriau cras y steward--"y dylai wneyd mwy o'r
ffarm"--i seinio yn ei glustiau am hir amser wedi hynny. Yr oedd ef a'i
wraig a'i blant yn awyddus iawn am wella y ffarm. Gwyddent y gellid ei
gwella; ac yr oeddynt wedi meddwl ac ymddiddan llawer am gynllun i drin
yn well; ond yr oeddynt yn ofni traul y drefn newydd. Beth bynnag, gan
fod y steward wedi rhoddi awgrym mor gryf ac mor eglur iddynt am drin yn
well, penderfynasant gynnyg yn deg am amryw welliantau: ac ar ol
cyfnerthu y wedd, a phrynu offer newyddion, a chyflogi ychwaneg o
ddwylaw, darfu i'r gwr a'r wraig a'r plant, i gyd oll yn wyth enaid,
gydymroi i lafurio yn ddiflino am welliantau am dros dair blynedd. Ond
ar ol gwneuthur y cyfrifiad manylaf, cawsant er eu siomedigaeth fod y
draul ychwanegol tuag at welliantau yn llawn triugain punt y flwyddyn,
tra nad oedd gwerth cynnyrch y gwelliantau hynny prin yn ddeugain punt y
flwyddyn: ac felly eu "hennill" drwy y gwell-iantau a ddirgymhellwyd
arnynt gan y steward oedd colled o ugain punt yn y flwyddyn. Yr oedd y
steward, a llawer o foneddigion eraill, ac amryw o'r cymydogion, yn eu
canmol yn fawr iawn ac yn fwyn iawn, am drefn dda eu tyddyn; sylwent fod
wyneb a chalon eu tyddyn yn glod iddynt, ac yn brydferthwch i'r
gymydogaeth: ond nid oedd
|