ain na roddid dim coel i'r prynnwr. Cyfraith yr ocsiwn wyllt sydyn yno
oedd talu i lawr gyda bod y morthwyl i lawr; a chan fod y lord newydd
dderbyn ei renti y diwrnod cyn hynny, nid oedd yno ddim arian parod i'w
gael drwy yr holl gymydogaeth. Yn wir y mae yn ddrwg iawn gennyf dros
Humphrey y Gof, a thros Robert Frugul druan. Cyfraith uffernol ydyw
honno sy'n yspeilio y gweithiwr tlawd o'i ennill caled, ac o fwyd a
dillad ei blant, er llenwi coffrau a seleri y gormeswyr goludog.
Peidiwch, da mam, ag edrych yn ddu fel yna arnaf am anturio siarad fel
hyn am y gormeswyr goludog. Gwn eich bod wedi ein dysgu o'r cryd i
siarad yn wylaidd, ac i feddwl yn barchus am fawrion ein gwlad; ond y
gwir ydyw y gwir, a dylid ei ddweyd ar amgylchiad fel hwn. Ac nid oes
dim ond rhyw bum mis, fel y gwyddoch, er pan ddarfu i'r hen Nansi Jones,
ar ol bod yn dairymaid ragorol o fedrus ac o ffyddlon yn y Ddol Hir am
dros ugain mlynedd, golli pob ceiniog a enillasai yn yr un modd, pan y
mynnodd yr hen Lady Marigold o Blas y Dyffryn, bob dimai o'i rhent
afresymol hi. Beth ydyw pethau fel hyn ond lladrad noeth? Ac yr oedd y
drefn lunio cyfraith dros beth fel hyn, a'i darllen dair gwaith drosodd
mewn dau lys seneddol, cyn gosod sel y goron wrthi, yn rogni mor
gythreulig ag a ddyfeisiodd Turpin Wyld a'i gymdeithion erioed yn nyfnder
y nos, yn seler dywyllafllys cyngor ei ogof. Druan o'r hen Nansi Jones,
wedi colli drwy hyn y cyfan o holl ennill ei bywyd, wedi colli drwy hyn y
cyfan ydoedd wedi ofalus gynilo i'w chynnal yn ei hen ddyddiau. Ydyw,
mam, y mae peth fel hyn yn orthrymder anoddefadwy. Y mae yn farbariaeth
o'r fath greulonaf; ac y mae y rhai sydd yn gweinyddu y fath gyfraith yn
lladron o'r dosbarth hyllaf; y maent yn lladron hyfion wyneb-haul: ac y
maent yn digywilydd ymogoneddu yn nerth trais eu lladradaeth. Gellwch
chwi, fy nhad, ysgwyd pen, a gwenu a synnu bob yn ail, at hyfdra fy
ymadroddion; ond nid wyf yn dywedyd dim ond y gwir. Yr wyf yn dywedyd
gwirionedd eglur, mewn geiriau eglur; ac y mae yn llawn bryd i rai ddweyd
y gwir am bethau fel hyn yn y mannau mwyaf cyhoedd, ac yn y geiriau mwyaf
eglur. Y mae synwyr cyffredin y wlad wedi bod yn rhy wylaidd o lawer, a
gonestrwydd cyffredin y wlad wedi bod yn rhy ddistaw o lawer yn nghylch
pethau fel hyn."
"Ond," ebe'r tad a'r fam, eu dau ar unwaith, "er mwyn popeth, John anwyl,
gad yna bobl fawrion y senedd a'r gyfraith; gad i ni ystyried beth sydd i
ni wneyd yn awr?"
"Beth
|