r ammonia o'ch tomennydd:
neu, mewn geiriau eraill, er atal colli nodd y rhinwedd o'r tail, yr hyn
yw ei nerth fel gwrtaith. Gwelais ddoe, wrth fyned heibio, amryw
domennydd yn bur wasgarog, ar dapiau moelion, llechweddog, digysgod, heb
fod yn agos mor gryno ac mor amddiffynedig ag y buasai yn hawdd iddynt
fod. Yr oedd holl domennydd yr hen Farmwr Clout ar lethr craig, ar fin y
nant; ac yr oedd eu brasder goreu yn llifo ymaith i nychu y brithylliaid
oedd yn y llyn du oddidanynt: ac yr oedd pistyll trystfawr Ffarmwr
Careless yn gwyllt-ffrydio ar draws buarth y ty, a thrwy fuarth yr
ysgubor, a thros ochr yr ydlan, ac i lawr dros y ffordd i'r afon. Y mae
y fferyllwyr craffaf yn dysgu i ni fod llawer iawn o nerth gwrteithiau
cartrefol ein gwlad ni yn cael ei golli trwy fod y tomennydd yn cael eu
gadael yn agored i'r tes ac i'r tymhestloedd. Dyfal astudiwch bob
cynllun a osodir ger eich bron er ysgoi y colledion hynny. Y mae yr hen
dai, a'r hen ysguboriau, ar lawer tyddyn wedi cael eu hadeiladu yn y
mannau mwyaf anfanteisiol. Nid eich bai chwi oedd hynny. Gwn fod lle a
dull adeiladau rhai ffermydd go fychain yn achosi colled o dros ugain
punt yn y flwyddyn. Er pob peth astudiwch a chwiliwch am ryw foddion er
atal i rinwedd eich tomennydd gael ei sugno gan y tes i'r wybren, na
chael ei olchi gan y tywydd i'r mor. Gwn am amryw hen ffarmwyr a
wnaethant lawer o arian yn eu dydd, ac nid wyf yn gwybod eu bod yn enwog
am ddim ond am ruglo y buarthau, a chludo y cyfan i'r domen er ei mwyhau,
ac am ei chadw yn gryno er ei hamddiffyn. Gwnewch eich goreu ymhob modd
i frashau a chynyddu eich gwrtaith cartrefol. Cedwch oriau rheolaidd, yn
enwedig wrth godi ac wrth noswylio, a chyda'ch prydiau bwyd. Dysgwch
eich gweinidogion i fod yn ddiwyd, ac yn gynnil, ac yn onest. Erfyniwch
arnynt er pob peth i fod yn eirwir, ac yn ffyddlon yn eich absenoldeb.
Gwnewch eich goreu ar i bawb drwy'r ardal gael digon o waith. Peth
ofnadwy ydyw meddwl am fechgyn neu ferched ieuainc mawrion cryfion iachus
yn ymsegura mewn syrthni heb ddim i'w wneyd. Y mae llaweroedd drwy
seguryd felly wedi cael eu handwyo am byth. Rhoddwch gymaint o ysgol ag
a fedrwch i'ch plant. Ni fynnwn i er dim, ac yr wyf yn sicr nas mynnai
eich meistr tir er dim, eich rhwymo na'ch gorfodi mewn un modd gyda golwg
ar eich Sabbathau. Y mae yr addoli i fod yn hollol yn ol barn eich deall
a theimlad eich calon eich hun; ond goddefwch i mi ddweyd na welais i
ddim daioni yn dyf
|