awn hefyd o we hir y pum ceffyl, ac o'r hwshings, a'r martingals, a'r
mwng ribanawg, a'r cynffonau plethedig. Ac yr oedd y cow-man a'r laeth-
forwyn yn bur hoff o fod gyda'u gilydd yn mhob man y gallent; a deallwyd
bob yn dipyn ei bod hi yn colli gryn lawer o'r llaeth os digwyddai ef fod
yn agos. A'r hyn oedd yn waeth na'r cyfan, dechreuodd Mrs. Highmind gael
ei blino yn fawr yn y boreuau gan anhwylderau y cylla: a chafodd anwyd
trwm iawn un bore wrth hebrwng y buchod o'r fuches i'w porfa, drwy fod ei
hesgidiau braidd yn deneuon, a'r gwlith heb godi, a dichon iddi gael
ychydig o gnau yn y gwrych wrth ddyfod adref. Beth hynnag, gorfu iddynt
gyflogi nurse o gryn fedr ac o gryn brofiad, ac yr oedd galwad hefyd ar
Mr. Highman i fod yn y ty y rhan fwyaf o'i amser ymhell cyn, ac ymhell
wedi, gorweddiad i mewn Mrs. Highmind; a phan y daeth rhybudd am y
diwrnod rhent, deallodd ei fod yn fyr o ddeg punt ar hugain, a galwodd yn
union gyda'i hen ewythr Thomas ap Owen i ddweyd ei gwyn wrtho--ei fod
wedi myned i gryn draul yn y chwe mis diweddaf i ddodrefnu y ty a phethau
eraill; fod y steward wedi adnewyddu a chrynhoi llawer iawn ar y ty, a'i
fod yntau wedi prynnu soffa, a bwrdd mahogani, a chadeiriau mahogani, i'r
parlwr, a drych mawr uwchben y tan; a'i fod hefyd wedi cael gwely
mahogani, a dodrefn gwely i gyfateb i'r ystafell uwchben y parlwr; a'u
bod wedi cael gwely newydd, a chist-ddillad fawr dda iawn, i'w hystafell
ei hunain, a llawer o bethau newyddion eraill. Gofynnodd ei hen ewythr
iddo braidd yn sydyn a oedd efe wedi prynnu y pertiant torri gwellt, a'r
peiriant chwalu clapiau, ag oedd ef wedi son am brynnu. Atebodd yntau
nad oedd--nad oedd yn wir ddim wedi gallu eu prynnu, fod treuliau
meddygol a theuluaidd wedi chwyddo i fyny i fwy nag oedd efe wedi allu
rag gyfrif; a'i fod o herwydd hynny wedi methu prynnu amryw bethau ag yr
oedd eu mawr eisiau tuag at wasanaeth y ffarm. Dywedodd ei hen ewythr
wrtho y gallai roddi benthyg pum punt ar hugain iddo am bum mis, ond nad
allai roddi dim ychwaneg iddo; ei fod ef yn fynych mewn prinder ei hun;
ei fod yn gorfod rhoddi llog hynny o arian oedd ganddo wrth gefn i wneyd
i fyny y rhent; a bod yn rhaid iddo gael y pum punt ar hugain yn ol cyn
Gwyl Fair. Yr oedd Mr. Highmind yn ddiolchgar iawn i'w hen ewythr am ei
gymwynas, a sicrhaodd wrtho y gofalai am dalu yn ol mewn amser prydlawn.
Trwy gael benthyg fel hyn gan ei ewythr, casglodd ddigon rywfodd i dalu
ei rent Gwyl Fihangel. A
|