FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   >>  
CILHAUL AR OSOD" oedd o flaen y llygaid pa le bynnag yr elid. Daeth pump neu chwech o ddynion dyeithr o bell i'w golwg, ond trodd pob un o honynt adref heb wneuthur unrhyw gynhygiad. O'r diwedd galwodd y steward y baili ato, a dywedodd, "Yr wyf yn ofni y rhaid i ni sefyll at Cilhaul am y flwyddyn yma; a rhaid i ni ymroi i ffarmio gystal ag y medrwn ni. Ni geisiwn borfau mwy o honi, ac aredig llai o honi, nag oedd Jacob Highmind yn wneyd. Rhai pur dibrofiad a diofal oedd Jacob a'i wraig. Mi ofynnaf fi i'm cyfaill craffus W. Wilful, Yswain, o Severn-mead, am fyned i lawr gyda chwi i ffair Midland i brynnu Herefords a Southdowns i ni; ac yr wyf yn bur hyderus y gwnawn yn dda iawn o'r ffarm." Tua diwedd yr haf gofynnodd y steward i'r baili pa fodd yi oedd yr Herefords a'r Southdowns yn troi allan. "Drwg iawn yn wir, syr; y mae y rhosydd a'r gweunydd yn rhy wlybion ac yn rhy frwynog iddynt, ac y mae y moelydd yn rhy oerion iddynt: dichon fod y tymor wedi bod yn fwy anfanteisiol nag arferol; ond beth bynnag am hynny, y maent yn edrych lawer gwaeth nag oeddynt pan ddaethant yma, ac y mae y prisiau yn awr yn bur isel; nid allwn ni ddim cael cymaint am danynt ag ydym ni wedi roddi, er eu bod wedi cael holl borfa llaeth ac ymenyn y ffarm i gyd." "Beth, baili, wyt ti yn dweyd nad allwn ni gael dim cymaint am danynt ag a roisom?" "Ydwyf, syr, yr wyf yn ofni hynny." "Wel, beth gawn i wneyd, baili? Y mae hyn yn beth braidd profoclyd. O dangio y free-traders yna "Y mae yn rhy ddiweddar i chwi eu dangio hwy yn awr, o leiaf am eleni. Nid oes gennym ni ddim arian mewn gafael tuag at y talion nesaf." "Wel, gwell i ni adael cyfrifon yr hanner blwyddyn yma heb eu talu, a chwilio am y cyfle goreu fedrir gael o hyn i ddiwedd y flwyddyn i werthu y cyfan gyda'u gilydd, a chawn weled y pryd hynny pa fodd y bydd y cyfrifon yn sefyll." Ar ddiwedd y flwyddyn dygodd y baili ei gyfrifon at y steward yn ol y gorchymyn. "Wel, baili," meddai'r steward "ydyw'r tenantiaid yn dal i gwyno?" "Ydynt yn wir, syr; ac y maent yn edrych yn bur ddigalon." "A fedri di ddweyd i mi pa rai o honynt sy'n cwyno fwyaf yn erbyn y prisiad a'r codiad diweddaf, a phrisiad y degwm; oblegid, yn wir, rhaid i mi wneyd rhyw sylw bellach o'r rhai sy'n tuchan o hyd. O ie, ydyw cyfrifon Cilhaul genyt ti?" "Ydynt, syr." "Wyt ti wedi gwneyd y balance i fyny i ni gael gweled pa fodd y maent yn sefyll." "Nac ydwyf, syr, ond gallaf wneyd mewn mu
PREV.   NEXT  
|<   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   >>  



Top keywords:
steward
 

sefyll

 
flwyddyn
 

cyfrifon

 
ddiwedd
 
Southdowns
 
Herefords
 

iddynt

 

edrych

 

cymaint


dangio

 

danynt

 

Cilhaul

 

diwedd

 

bynnag

 

honynt

 

chwilio

 

chwech

 

hanner

 

blwyddyn


fedrir

 

gilydd

 

werthu

 

ddiweddar

 
traders
 
braidd
 

profoclyd

 

talion

 

gafael

 

gennym


bellach

 
tuchan
 
oblegid
 

codiad

 

diweddaf

 

phrisiad

 

gallaf

 

gweled

 

gwneyd

 
balance

prisiad
 
tenantiaid
 

llygaid

 

meddai

 
roisom
 

gyfrifon

 

gorchymyn

 

ddigalon

 

CILHAUL

 
ddweyd