nud."
"Aros, gad i mi gael gweled y prif bennau. O, dyma ddalen ein
dyledion--gad weled beth ydynt?--1. Degwm. 2. Trethoedd. 3 Cyflogau.
4. Casglu y cynhaeaf. 5. Calch. 6. Tanwydd. 7. Gof. 8. Seiri. 9.
Porfa gaeaf. Aros di, pa le y mae'r hyn a dalasom am aredig a hau a
llyfnu yn y gwanwyn? Nid yw y talion hynny ddim yma."
"Nac ydynt, syr; darfu i ni, os ydych yn cofio, alw ar y tenantiaid
cymydogaethol i aredig a hau a llyfnu i ni; a gwnaethant bob un ei ran yn
bur rwydd i chwi, a hynny am ddim.
"Gwir iawn, baili--gwir iawn yr wyf yn cofio hynny yn awr, ac y mae hynny
erbyn heddyw yn gryn lwc i ni; ac eto mi welaf fod y balance yma yn ein
herbyn."
"Ydyw, syr, y mae."
"Beth, oes genyt ti ddim arian mewn llaw tuagat rent y flwyddyn?"
"Nac oes yn wir, syr, ac y mae y dreth dlodion, a rhai gofynion eraill,
heb eu talu."
"Dam it--rhaid fod rhyw dalion uchel cywilyddus yn dy gyfrif di."
"Nac oes yn wir, syr: cefais wneuthur pob peth i chwi am y prisiau isaf;
ond darfu i ni golli cryn dipyn o arian ar rai o'r ychen mwyaf, a rhai
o'r defaid mawrion mwyaf: nid oeddynt ddim yn gweddu yma, ac y mae wedi
bod yn dymor anfanteisiol o ran y tywydd a'r prisiau."
"Wel, cawr gwyllt a'n cato ni, oes gennyt ti ddim tuag at y rhent?"
"Nac oes yn wir, syr."
"Wel, yn enw pob rheswm, pa fodd y mae yn bod felly?"
Wel, syr, y mae'r ffarmwyr yn methu talu cyflogau, ac y mae llaweroedd o
lafurwyr tlodion o ganlyniad allan o waith; ac y mae y trethoedd o
herwydd hynny yn myned yn bur uchel, a'r tir ar yr un pryd yn gwaelu. Ac
yn wir, y mae degwm Cilhaul yn bur uchel--yn ymyl pymtheg punt."
"Beth! ydyw degwm Cilhaul yn bymtheg punt?"
"Ydyw, syr, o fewn ychydig sylltau."
"O dangio y personiaid a'u Heglwys; y maent hwy yn gallu dyfeisio i
ennill ac i elwa drwy bob prisiad, a than bob trefn."
"Atolwg, syr, peidiwch a dangio y personiaid fel yna, er eich mwyn eich
hun, ac er mwyn eich ceraint sy' mewn urddau eglwysig hefyd. Ydych chwi
yn cofio fel y darfu i chwi fwgwth troi Jonathan Noncony druan o'i ffarm
am iddo ddigwydd dweyd dan ryw hanner cellwair yr hyn a ddywedasoch chwi
yn awr--nad oedd y person byth yn colli dim drwy unrhyw gyfnewidiad."
"Ydwyf, baili, yr wyf yn cofio fel y darfu i mi drin Jonathan, ac fel y
darfu i mi yrru Jonathan a'r warden benben, fel y cawn i achlysur
oddiwrth hynny i achwyn ar Jonathan wrth ei feistr tir:--ond dangio
Jonathan a'r warden a'r person; ni wiw i ni syrthio
|