a'r plant yn enwedig, oedd eu bod
mor ystyfnig, a braidd yn dafodog, os tybient eu bod yn cael eu gwasgu."
Gydag i'r Carefuls gymeryd llong a hwylio ymaith, gwahoddodd Mrs. Steward
y tenant newydd a'i wraig i ddyfod i'r Green i de. Yr amcan o hynny,
mewn enw, oedd i'r steward a'i deulu gael cyfle i roddi cyfarwyddiadau i
Mr. a Mrs. Highmind gyda golwg ar driniad dyfodol Cilhaul Uchaf; ond yr
amcan mewn gwirionedd oedd i deulu y steward gael gwybod teimladau a
syniadau a dywediadau y cymydogion gyda golwg ar wthiad ymaith y Carefuls
o'u ffarm. Adroddodd Mr. a Mrs. Highmind wrthynt bob peth oeddynt wedi
glywed gan bawb; a threuliwyd dwy awr a hanner felly yn bur ddifyr i
redeg dros holl helynt yr holl gymydogion. Gwyddai Jacob Highmind yn bur
dda am ragfarn teulu y steward yn erbyn rhyw bump neu chwech o'r
cymydogion, a gwyddent hefyd yn eithaf da pa fodd i borthi y rhagfarn
hwnnw; a buont yn bur llwyddianus i goginio i'r stewart a'i deulu wledd o
athrod o'r fath a garent; a phan oeddynt ar gychwyn adref o'r Green,
crybwyllodd y steward yn bur siriol wrthynt ei fod ef am ailwneyd aelwyd
y parlwr a phapuro y muriau, a'i fod am seilio y lofft wely oreu, a
helaethu ei ffenestr; a'i fod am wneuthur back-kitchen newydd iddynt, a
symud y grisiau o ochr y kitchen i dalcen uchaf y back-kitchen; a'i fod
am wneyd ffwrn a chodi boiler yn nhalcen isaf y back-kitchen; ac y mynnai
fflagio y seler; ac y caent dy bach mawr y tuhwnt i'r twyn ffebrins
pellaf yn yr ardd; ac y mynnai droi y pistyll o'r tu wyneb i'r tu cefn
i'r ty, heibio i ddrws y back-kitchen; a'i fod heblaw hynny yn cynllunio
amryw gyfleusderau eraill iddynt; ac ychwanegodd gyda wyneb pur siriol ei
fod yn disgwyl y gwnaent yn dda yn Nghilhaul Uchaf. "Oblegid," meddai
ef, "y mae yn ffarm bur helaeth; ac, a dweyd y gwir i chwi yn ddistaw, y
mae y Carefuls wedi ei gadael yn y drefn oreu, ac yn y galon oreu. Mewn
un gair, yr oedd yn amhosibl iddynt ei gadael mewn cyflwr gwell."
Ymadawodd Mr. a Mrs. Highmind o'r Green mewn ysbrydoedd pur uchel, a
chydymroisant yn egniol i ddechreu ffarmio; ond buont dipyn yn anlwcus yn
newisiad eu gwasanaeth-ddynion. Nid oedd y bugail ddim yn un rhy graff,
na rhy gyflym, na rhy ofalus; ac nid rhyw law wastad iawn oedd gan yr
aradrwr--byddai ei gwlltwr yn bur fynych ar wyneb y tir, wedi cael ei
wthio allan gan garreg--neu ynte byddai yn glynu ac yn plygu ar y graig
ddu ag oedd yn waelod i dros hanner tyddyn Cilhaul; ac yr oedd yn hoff
i
|