ffarm am
y rhent presennol.
"Ond dywedir i mi," meddai'r lord, "fod John Careful wedi gwario llawer
iawn mewn gwelliantau yno, a bod ei blant oll yn rhai sobr, deallus, a
gweithgar, dros ben, a'u bod wedi llafurio llawer yno. Byddai yn dda
iawn gennyf pe medrem ddyfod i ryw gytundeb yn eu hachos. Byddai yn
ofidus gennyf golli y fath denantiaid."
"Yr wyf yn ofni, my lord, os gwnawn blygu i ostwng y rhent iddynt hwy, y
deuwn ni i ddyryswch diderfyn gyda thenantiaid eraill."
"Wel, dichon y dylem ni adystyried achos yr holl denantiaid, ac y dylem
gymeryd rhyw sylw neillduol o'r rhai sydd wedi gwario a llafurio fwyaf
mewn gwelliantau."
"Na, yn wir, nid yn awr, my lord, os gallwn mewn modd yn y byd osgoi
hynny. Buasai yn dda iawn pe buasai mwy o ystyriaeth ac o bwyll yn bod
yn yr amser a aeth heibio, a phe buasai mwy o ymchwiliad yn cael ei wneyd
i draul a llafur tenantiaid mewn gwelliantau yn amserau rhai o'r
prisiadau a wnaethpwyd yn y blynyddoedd a aethant heibio,--ond nis gallwn
ni ddim galw yn ol yn awr yr adegau hynny. Y mae'r camgymeriadau a
wnaethpwyd yn awr yn hen. Y maent yn hen bethau wedi myned heibio. Nid
ellir dim eu galw yn ol yn awr. Y mae yn rhy ddiweddar yn awr i feddwl
am eu hadystyried. Y mae yr ymwthio am ffermydd yn parhau o hyd, yn
enwedig yr ymwthio am y ffermydd ag ydynt mewn trefn weddol o dda; ac yn
wir, nid wyf fi ddim yn meddwl, pe baem ni yn gostwng, ac yn gostwng
llawer i'r Carefuls, y gofynnent byth eto am Gilhaul Uchaf. Y mae cryn
ysbryd ymsymud ac ymfudo yn awr yn y wlad. Nis gwn yn sicr beth ddaw o
honi. Mae rhai tenantiaid yn dechreu myned braidd yn ystyfnig, ac yn wir
weithiau yn dafodog."
"Ydych chwi wedi addaw Cilhaul i ryw un?"
"Na, nac ydwyf, my lord, ddim wedi ei haddaw; ond yr ydwyf, my lord, bron
cystal a bod wedi ei haddaw i Mr. a Mrs. Jacob Highmind. Y maent yn bobl
ieuainc bywiog, boneddigaidd, gwetlhgar, diolchgar, yn geraint i
deuluoedd Eglwysig, o egwyddorion ystwyth, plygadwy, conserva-toriaidd. Y
mae ganddynt ddigon o arian at eu llaw, ac y maent yn debyg o drin yn dda
ragorol, mewn dull fydd yn enw ac yn elw i'r estate: a'r hyn sydd o
braidd fwy pwys na dim ydyw, y cawn ni glywed yn ddistaw o bryd i bryd yr
oll fydd yn cael ei ddweyd a'i wneyd yn yr ardal. Gallaf sicrhau i chwi,
my lord, fod yr Highminds yn bobl barchus iawn. Y maent yn perthyn dipyn
i deulu dylanwadol y Sliminds. Yr wyf yn addef fod y Carefuls yn bobl
ddiwyd, geirwir, ymdrechga
|