r
ffarmwr ieuanc ymchwilgar Dicky Price, yn niwedd pob darlith, gyda golwg
ar draul a holl gysylltiadau eraill y gwelliantau a fyddai y darlithydd
am gynnyg i sylw y tenantiaid. Oblegid yr wyf fi yn credu, my lord, fod
llaweroedd o'r scriblwyr barfog Llundeinaidd fu'n ysgrifennu yn ddiweddar
i'r newyddiaduron ynghylch gwelliantau amaethyddol llechweddi a rhosydd
Cymru wedi gwneuthur cam mawr a thenantiaid craffus ac ymdrechgar. Y mae
yn ddigon hawdd gwybod mai ar ol cinio go fras, a diod go gref, yr oedd y
scriblwyr barfog hynny yn dychymygu eu cynlluniau, ac yn gwneyd i fyny eu
cyfrifon; ond nis gwn i ddim nad oedd rhyw grach-arglwydd go anghenog yn
talu am eu cinio, er cael tipyn o logic cockney y papyr newydd yn esgus
dros ei waith yn codi rhenti afresymol. Hoffwn i yn fawr iawn gael newid
lle ag un o'r scriblwyr gwalltog hynny am dair blynedd. Cai ef ffarmio
ochrau Cilhaul Uchaf, ac eisteddwn innau wrth ei ddesc yntau i gadw y
cyfrifon. Yr wyf fi yn wir awyddus, my lord, am welliantau. Y mae yr
oes yma yn oes am welliantau, a diwygiadau, a dyfeisiau. Gellir dichon
ddyfod o hyd i egwyddorion a chynlluniau ag a all fod o les mawr i
ffarmwyr. Nid oes gennyf fi ddim cydymdeimlad a'r ffarmwyr musgrell diog
llygad-gauad ag ydynt ding-dong yn yr un man o hyd, yn esgeuluso neu yn
gwrthod pob gwelliant profedig er teced y byddo yn cael ei osod ger eu
bron, ac er taered y byddo yn cael ei gymhell i'w hystyriaeth; ond yr wyf
ar yr un pryd yn protestio yn erbyn cynlluniau gwylltion, a chyfrifon
bylchog gwallus, y scriblwyr menyddboeth penfeddal sy'n ysgrifenu
llythyrau i'r newyddiaduron am geiniog y line gan y swyddfa, neu am gig
rhost a grog gan arglwydd y tyddyn: peth ofnadwy ydyw ysgrifenu am gyflog
er mwyn boddhau pobl nad ydynt am wybod y gwirionedd."
"Eh, oh, John, yr wyt ti yn dechreu twymo mymryn yrwan, ac yn myned
braidd yn ddoniol. Rhaid i mi fyned yn awr. Glywi di swn gwyllt y
bytheuaid? Y maent yn fyw ar eu full cry. Yr wyf yn gobeithio cael dy
weled yn fuan eto; ac fel y dywedais o'r blaen, byddaf yn sicr o gofio am
dy achos pan ddaw diwrnod yr Audit."
Daeth dydd yr Audit, a gofynnodd y lord i'r steward paham yr oedd John
Careful yn ymadael o'r Cilhaul Uchaf. Atebodd y steward mai o herwydd ei
fod o hyd yn achwyn ar y codiad diweddar, a'i fod wedi dywedyd drachefn a
thrachefn nad allai ddim talu y rhent presennol; ac am fod pobl ieuainc
cryfion, newydd briodi, pur gyfrifol, yn gwbl barod i gymeryd y
|