FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66  
67   68   69   >>  
od erioed o'r bobl sy'n treulio eu Sabbathau i gysgu a dylyfu gen a rhodianna a hel cleber. Os byddwch chwi am ryw welliantau ag y dylai eich meistr tir eich cynorthwyo i'w gyflawni, ystyriwch eich cynlluniati gyda manylrwydd, a gadewch imi wybod eich cynygion. Yr oedd yn dda iawn gennyf eich gweled yma mor brydlawn bore heddyw. Y mae eich cinio yn awr yn barod; ac y mae gennyf i'w hysbysu i chwi y bydd eich arglwydd tir caredig yn eich dysgnyl oll i giniawa gydag ef yn y Castell Wyl Fair nesaf. Bydd yno y pryd hynny amryw foneddigion profiadol dysgedig i esbonio i chwi ryw egwyddorion newyddion gyda golwg ar ansawdd gwahanol briddoedd, a gwahanol wrteithiau, a gwahanol lysiau, yn nghydag amryw bethau eraill cysylltiedig a llwyddiant amaethyddiaeth. Gadewch i ni fyned oddiyma yn awr i'r ystafell ginio. Ni gawn ar ol cinio yfed iechyd da ein brenhines a'ch meistr tir; ac yna ymwasgarwn bob un i'w gartref." "Aros, John, aros; yr wyt ti yn awr yn pregethu dyledswydd i dy uwchradd, a hynny mewn dull pur gyfrwys. Yr wyf wrth dy wrando wedi colli adeg i weled cychwyniad y llwynog; yr wyf eisus yn rhy ddiweddar, ac mi gollaf hynny o sport." "Yr wyf yn deisyf eich pardwn, my lord; yr oeddwn yn rhy ddifeddwl wrth gymeryd eich amser chwi felly; ond yn wir, ni buaswn i byth yn dweyd cymaint oni buasai eich bod chwi yn gwenu mor isel ac mor garedig wrth wrando. Mi af fi adref gynted ag y gallaf bellach." "Aros, John, aros--paid a myned yn union eto. Yr wyf fi yn hoffi clywed hen denant fel tydi yn dweyd ei feddwl a'i brofidd yn rhydd ac yn eglur. Ychydig iawn yn wir wyf fi yn hidio yn awr am golli rhyw dipyn o sport ac o lafur yr hela llwynog. Nid oes gennyf fi yn awr ddim cymaint o flys at bethau felly ag a fu gennyf unwaith; ac yn wir yr wyf yn ofni ein bod ni ar ddyddiau hela fel hyn yn gwneyd cryn niwaid i borfeydd a gwrychoedd a chaeau yd ein tenantiaid. Y mae ein mintai heddyw rhwng cwn a meirch a dynion yn un bur fawr. Yr wyf yn ofni fod ein blys ni am sport yn costio yn lled ddrud iddynt hwy. Yr ydym, yn gyntaf, yn diygu eu meusydd hwy ar ddyddiau ein helwriaeth. Yn ail, eu gwellt a'u hegin a'u hyd hwy sydd yn porthi ac yn pesgi ein cwningod a'n hysgyfarnogod a'n hadar tewion ni. Yn drydydd, y maent hwy yn lled fynych yn gorfod lletya a byrddio ein milgwn a'n bytheuaid ieuainc ni, pan y bydd tymor sport yr hela drosodd. Ac yn bedwerydd, os digwydd iddynt hwy rywdro, yn rhyw ddull, ddyfod ar draws petris
PREV.   NEXT  
|<   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66  
67   68   69   >>  



Top keywords:

gennyf

 

gwahanol

 
llwynog
 

iddynt

 

heddyw

 
wrando
 

meistr

 

ddyddiau

 

cymaint

 

bethau


unwaith
 

Ychydig

 
erioed
 

denant

 

gynted

 

gallaf

 

bellach

 
garedig
 

buasai

 

feddwl


brofidd

 
clywed
 

mintai

 

fynych

 

gorfod

 
lletya
 

milgwn

 
byrddio
 
drydydd
 

tewion


porthi
 

cwningod

 

hysgyfarnogod

 

bytheuaid

 

ieuainc

 

rywdro

 
ddyfod
 

petris

 

digwydd

 

drosodd


bedwerydd

 

meirch

 

dynion

 
tenantiaid
 
niwaid
 

borfeydd

 

gwrychoedd

 

chaeau

 

helwriaeth

 

meusydd