FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67  
68   69   >>  
en, neu gyffologyn, neu gyw pheasant, neu gwningen, neu ysgyfarnog, dyna, hwy ar unwaith wedi ymddyrysu yn rhwydau ein deddfau helwfiaeth ni; ac wrth ymwingo i geisio dianc yn rhydd, y maent y rhan amlaf yn colli eu tymherau, ac wedi hynny yn colli llywodraeth eu tafodau, ac bob yn dipyn ar ol hynny yn colli eu ffermydd. Atolwg, John, a fedri di ddweyd i mi pa faint o gost i denant ydyw cadw bytheuad neu filgi ieuanc?" "Na fedraf, my lord, ddim dweyd hynny yn fanwl. Byddai yn drueni creulawn hanner newynu ci ieuanc. Os caiff ei gadw yn dda, costia gymaint a chadw mochyn; ac y mae y gofal o gadw ci ieuanc yn rhywbeth. Y mae helgi ieuanc cryf gwresog weithiau yn bur chwareus, braidd yn rhy chwareus ar adeg yr wyn bach; ac y mae yn anhawdd iawn gennyf feddwl am gi ieuanc wrth ei gadwyn ddydd a nos, ac edrych arno yn neidio o'm deutu gan ymbil arnaf a'i wen, ac a'i ddeigryn, ac a'i lygaid, ac a'i ochenaid, am ei ollwng yn rhydd o'i gadwyn i gael rhoddi mymryn bach o dro gyda mi drwy y coed a'r caeau." "Ond, John, wyt ti yn golygu fod ein game ni, sef ein hadar a'n hysgyfarnogod ni, yn peri colled i'r tenantiaid?" "Byddai yn well gennyf, my lord, beidio ateb y gofyniad yna." "Yn enw dyn, John, pam?" "Am nad yw y tenant byth ar ei ennill wrthsiarad ar bwnc fel yna." "Twt, twt, John; yr oeddwn i wedi clywed dy fod di bob amser yn barod i ddweyd dy feddwl yn eglur a didderbynwyneb ar bob pwnc. Y mae fy ngofyniad i yn un digon dealladwy--A ydyw ein hysgyfarnogod a'n hadar ni yn achosi colled i'n tenantiaid?" "Wel, ydynt, my lord, y maent; y maent yn sicr. Y mae y tenant yn cael rhy fach yny dyddiau yma am besgi beef a mutton; ac nid yw yn cael dim am besgi cwningod ac ysgyfarnogod, ond rhyw ychydig o wenwyn ac o ddrwg ewyllys yn awr a phryd arall. Ni chefais i ddim cymaint o golled oddiwrth game ag a gafodd rhai tenantiaid; ond mi wn i am rai mannau lle y mae game yn cael brasder y porfeydd, a defnydd bara y tylwyth. Dyna'r gwir, my lord; ond yr wyf yn ofni fy mod yn eich digio wrth ei ddweyd." "Nac wyt yn wir, John, nac wyt yn wir. Paid a meddwl fy mod wedi tramgwyddo o herwydd yr hyn a ddywedaist heddyw. Da iawn gennyf fy mod wedi cael cyfle i glywed dy farn a'th deimlad am y pethau yma. Byddai yn burion peth i ni gael adegau mynychach i glywed ein tenantiaid yn adrodd tipyn o'u helyntion; ac yn wir yr wyf fi bron iawn a blino ar bryder a rhwysg a rhodres bywyd uchel cyhoeddus, a rhyw ffurf-ddefodau s
PREV.   NEXT  
|<   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67  
68   69   >>  



Top keywords:

ieuanc

 

tenantiaid

 
ddweyd
 

Byddai

 

gennyf

 
tenant
 

gadwyn

 

glywed

 

chwareus

 

colled


hysgyfarnogod
 

feddwl

 
cwningod
 

ysgyfarnogod

 

ewyllys

 

wenwyn

 

ychydig

 
didderbynwyneb
 

ngofyniad

 

oeddwn


clywed

 
dealladwy
 

dyddiau

 

mutton

 

achosi

 
chefais
 

adegau

 
mynychach
 
adrodd
 

burion


pethau
 

deimlad

 

helyntion

 

cyhoeddus

 

ddefodau

 

rhodres

 
bryder
 

rhwysg

 

heddyw

 

ddywedaist


mannau

 

brasder

 

porfeydd

 
defnydd
 
oddiwrth
 

golled

 

gafodd

 

tylwyth

 

meddwl

 

tramgwyddo