s, a'ch holl adeiladau mewn trwsiad cyfaddas.
Colled i chwi, yn gystal ag i'ch meistr, fyddai i chwi beidio gwneyd
hynny. Gwn am ddwy neu dair o ysguboriau lle y cafodd tunelli o wair ei
ddrygu y gaeaf diweddaf am fod y to yn gollwng defni. Naw mlynedd yn ol,
darfu i'ch arglwydd tir fyned i draul fawr i wneuthur ffordd newydd drwy
Glyn y Bedw Gleision. Bu bron iawn i mi gorsio mewn mwy nag un man ar y
ffordd honno yn mis Mawrth diweddaf. Nid wyf yn meddwl i neb drwsio dim
arni, nac ar ei phyllau, nac ar ei ffosydd, nac ar ei routs, nac ar y
cloddiau o'i hamgylch, er y dydd y cafodd ei gorffen. Nis gwn yn sicr ar
bwy y mae bai mwyaf yr esgeulusdod, pa un ai ar arolygwyr ffyrdd y dre
ddegwm ai ar denantiaid yr ardal; ond yr wyf yn sicr pe buasai eich
meistr tir yn dyfod ar hyd-ddi yn y Gwanwyn diweddaf, a phe buasai yn
gweled ol teyrnasiad gwlawogydd naw gaeaf ar bob rhan o honi, y buasai yn
gwylltio gymaint fel y buasai yn ysgubo tenantiaid yr ardal honno i
ffwrdd bob un oddiar ei etifeddiaeth. A gwelais hefyd wrychoedd mawr
ceimion cysgodfawr canghenog, heb gael eu torri er dyddiau y Frenhines
Ann, yn lledu eu gwraidd a'u brigau ar draws ac o amgylch rhai o'r dolydd
mwyaf cysgodol yn yr holl wlad. Peidiwch er dim ag aredig mwy o dir nag
a fedrwch wrteithio. Bydd hynny yn sicr o achosi colled. Yr wyf yn
meddwl y gwnai gwisg go dda yn awr ac eilwaith o bridd a chalch, neu o
bridd a thail, i'ch porfeydd a'ch gweirgloddiau dalu yn well O lawer yn y
wlad oer fas wleb anwastad yma nag i chwi lafurio i droi gormod. Gwelais
y dydd o'r blaen, wrth fyned ar draws gyda'r cwn, hen domenydd llydain o
dywyrch ffosydd ar ganol y gweirgloddiau gwair, yn y mannau goreu arnynt;
ac yr oedd argoelion digon eglur fod y tomennau hynny wedi bod yno ar
ffordd y bladur er's degau o flynyddoedd. A gwelais hefyd y cloddiau a'r
ffosydd oddeutu amryw gaeau gwlybion wedi llawn gau, a'r man-ffrydiau sly
yn ymlithro yn ddistaw drwy'r dydd a thrwy'r nos o'r clawdd i'r cae i
andwyo y tir. Yr oeddwn bron gwylltio wrth weled hynny, eisiau fod y
cloddiau a'r ffosydd yn cael eu hagor, a'r tywyrch yn cael eu cymysgu a'r
hen domenydd gorsychion, a'r cyfan yn ol hynny yn cael eu cymysgu a
chalch neu a thail i'w daenu dros y caeau. Gellid dyblu cynnyrch rhosydd
a chaeau gwlybion yn y dull hynny. Y mae rhai yn meddwl y gellid gwneyd
defnydd da o glai drwy ei olosgi. Er mwyn pob peth ymdrechwch ddyfeisio
rhyw foddion er atal egriad, a llifiad ymaith y
|