stewardiaid trymion llymion chwi ysbarduno tenantiaid a gweithwyr
cysglyd, dioglyd, rhodianllyd, clebrog; ac yn wir yr wyf yn hoffi o'm
calon gweled rhai swrth a segur felly yn ei chael hi hyd adref; ond ar ol
ei rhoi hi yn ddiarbed i'r rhai afler a marwaidd, carwn yn fawr weled
eich steward mawr chwi, yn union ar ol derbyn y rhenti, yn galw y rhai
diwyd ac ymdrechgar o'i ddeutu i square yr Hotel, a charwn ei weled yn eu
canol, fel pregethwr 'Senters, yn dringo carreg yr Horse-block, i
areithio er canmol ac er cefnogi eu gofal a'u llafur. Carwn ei weled yn
sefyll yn syth ar ben hen garreg yr Horse-block; ac ar ol rhyddhau a
glanhau ei wddf, a thynnu ei gadach allan i sychu ei wyneb a'i wefus,
hoffwn ei weled yn estyn ei law am osteg a gwrandawiad, a'i glywed yn
areithio yn debyg i hyn:--
"'Fy hoff gyfeillion,--Yr wyf yn eich galw yn gyfeillion, oblegid yr wyf
fi yn gyfaill i chwi, ac yr wyf yn dymuno parhau yn gyfaill i chwi; ac y
mae o bwys mawr i ni fod yn gyfeillion. Y mae eich meistr tir urddasol a
haelfrydig wedi erchi i mi hysbysu i chwi ei fod ef yn dymuno eich
ffyniant a'ch cysur--ei fod yn dymuno i chwi wneyd yn dda, ac edrych yn
dda--ei fod yn dymuno i chwi gadw offer hwsmonaeth da, a stoc dda; a'i
fod am i chwi gael pantry llawn a phwrs llawn, a'i fod am i chwi allu
sparin arian bob blwyddyn. Y mae yn beth hollol deg a gweddus i chwi
gael rhywfaint o gyflog am eich gofal a'ch lludded, a rhywfaint o log am
yr arian sydd gennych yn nodrefniad a stociad eich ffermydd; ond ar yr
amserau drwg a dyryslyd hyn, dylech fod yn foddlon ar dalion cymedrol,
eto dylai pob un o honoch gynilo ychydig bob blwyddyn, os na bydd rhyw
dreuliau teuluaidd anarferol yn lluddias hynny. Dylech ymdrechu cynilo
ychydig bob blwyddyn erbyn angen a methiant y dyddiau a ddaw. Ewyllys
arbennig eich meistr tir ydyw i chwi gael pob anogaeth a chefnogiad.
Byddwch yn ddiwyd a gofalus. Gochelwch bob difrod a diogi. Astudiwch
eich cynlluniau yn fanylaidd. Cyn dechreu ar unrhyw orchwyl, eisteddwch
yn gyntaf i fwrw y draul. Cedwch eich cyfrifon yn llawn ac yn eglur.
Ymgedwch gartref hyd y gellwch. Telwch eich ffordd yn gyflawn yn mhob
man wrth fyned yn mlaen. Gochelwch ddechreu rhedeg i ddyled. Na
phrynnwch byth ar y coel. Gochelwch arfer benthyca arian na dim arall.
Cedwch eich buarthau yn gryno, eich cloddiau yn lan, eich cwterydd yn
agored, eich gwrychoedd yn gyfain, eich ffyrdd yn gelyd, eich llwybrau yn
sychion, eich to yn ddiddo
|