"Ac, my lord," ebe Squire Speedwell, yn bur sydyn, "y mae John Careful
a'i deulu yn penderfynu myned i America. Byddai yn resyn yn wir, my
lord, iddynt ymadael ac ymfudo felly. Gadael eich estate chwi. Gadael
hen aelwyd eu tadau; a gadael gwlad hoff eu genedigaeth. Tad cu John
oedd un o'r dynion cryfion fu'n cadeirio eich tad cu chwi drwy y ddinas
yma yn amser yr election fawr; a bu ei dad ef yn cario eich tad chwi ar
achlysur y gyffelyb fuddugoliaeth ar ol hynny; ac y mae ganddo yn awr dri
o feibion talion gwridog cryfion, nad ellid byth gael rhai mwy noble i
gario eich mab chwi yn yr election nesaf. Da chwi, my lord, er mwyn pob
peth, gwnewch rywbeth o'u tu yn yr amgylchiad a'r bwlch yma. Yn wir nid
yw ddim yn amser yn awr i daflu ymaith y fath hen denant ymdrechgar a
gofalus."
"Wel, mi wnaf yn sicr. Mynnaf siarad a'r steward ar y mater yn yr Audit
nesaf. Yr wyf fi yn credu fod fy stewardiaid i yn ceisio gwneyd eu
goreu. Nid wyf yn meddwl nad allant hwy gamgymeryd fel pobl eraill; ond
yr wyf yn credu eu bod yn bryderus ac yn awyddus ac yn llafurus ac yn
ddiwyd ac yn ystyriol i wneyd yr oll ag a allant yn y modd goreu; ac nid
wyf yn hoffi ymyrryd a'u trefniadau; ond yn wir yr wyf yn dwys deimlo
dros fy nhenantiaid tlodion ymdrechgar yn y blynyddoedd isel hyn. Y mae
dyddiau treth yr yd, dyddiau deddfau amddiffyniad eu marchnad hwy,
dyddiau prisiau adeg fyw y rhyfeloedd, wedi hen fyned heibio. Y mae'n
debyg gennyf ei bod yn bur ddrwg er's tro yn awr ar denantiaid; ac yr wyf
yn ofni yn wir, John Careful, eich bod chwi wedi cael eich gwasgu, a
gobeithio yr wyf y gwelaf fy ffordd yn oleu ac yn rhydd i mi eich
cynorthwyo chwi yn y bwlch yma. Ond dywedwch i mi, John, a ydych chwi
ddim yn meddwl y gallai rhai o'r tenantiaid wneyd mwy o'u ffermydd nag y
maent yn ei wneyd?"
"Ydwyf, my lord, yr wyf yn meddwl y gallent, ond iddynt gael cynorthwy a
chefnogiad ac addysg; ond os rhoddwch chwi bedwar can pwys ar ysgwydd dyn
nad all gario ond tri chan pwys, yr ydych yn sicr o'i wneyd bob yn dipyn
yn anewyllysgar ac yn analluog i gario dau gan pwys. Os gorfodwch chwi
ddyn i redeg triugain milldir y dydd, pan na ddylai redeg ond deugain
byddwch yn sicr cyn hir o'i redeg i'r pen. Y mae llawer o ffarmwyr yn
awr wedi eu gwasgu mor isel fel nad oes ganddynt ddim calon na nerth i
gynnyg at orchwylion ag y buasent dan amgylchiadau mwy cefnog yn sicr o'u
cyflawni. Peth eithaf priodol--ie, peth da ragorol, my lord, fyddai i'ch
|