r pan oedd ef wedi bod y
ffordd honno o'r blaen; fod yn hoff iawn ganddo weled, wrth ddyfod i fyny
y Ffridd, fel yr oedd hen ffarm Cilhaul Uchaf wedi cael ei threfnu a'i
gwella yn y blynyddoedd diweddaf, a'i fod yn gobeithio y cai y tenant oes
hir i fwynhau tal am ei lafur. Cydnabyddodd John Careful, mewn llais
trist isel, ei fod ef a'i deulu wedi myned i lawer iawn o lafur ac o
draul er gwella y ffarm, ond eu bod yn colli y cyfan,--ei fod newydd
dderbyn notice i ymadael.
"Nac ydych, 'does bosibl," ebe'r Squire yn bur sydyn.
"Ydym yn wir," meddai y tenant. "A ydyw eich meistr tir yn gwybod eich
bod yn ymadael?"
"Yn wir, syr, nid wyf yn gwybod hynny." "Wel, yr wyf fi yn disgwyl cael
gweled eich meistr tir yfory, neu drenydd, ac mi siaradaf ag ef yn
nghylch y mater."
"Yr wyf yn rhwymedig ac yn ddiolchgar iawn i chwi yn wir, syr; ond yr wyf
yn ofni na byddai hynny o ddim lles i ni nac i neb arall. Y mae yn awr
yn rhy ddiweddar. Gwasanaethodd y steward fi a'r notice a'i law ei hun,
a hynny mewn dull pur benderfynol. Y mae fy meibion yn teimlo ein bod
wedi cael cam creulon, ac y maent yn gofidio yn ddwys o'r herwydd; ac y
maent yn hollol benderfynol i fyned i America, ac y maent yn daer iawn ar
i'w rhieni fyned gyda hwy."
"Yr anwyl mawr, gwarchod ni, gobeithio nad yw Mrs. Careful a chwithau
ddim yn meddwl myned dros y mor i'r America yn eich oed chwi."
"Ydym, yn wir, syr, ac ni awn hefyd os bydd ein plant yn myned."
"Na, na, Mr. Careful bach, ail ystyriwch y peth--gwyliwch rhag y fath
helbul, a pherswadiwch eich meibion i beidio gadael gwlad eu genedigaeth.
Goddefwch i mi gael cyfle i siarad a'ch meistr tir yn nghylch y peth. Caf
adeg yn bur fuan. Aroswch chwi--; gadewch i ni weled--; gwrandewch yn
awr--. Y mae eich meistr tir i fod yn Hunt Fawr C * * * yr wythnos
nesaf. Deuwch yno; a byddwch yn sicr o ddyfod yno; a deuwch yno yn fore:
mynnaf fi gyfle i chwi gael ei weled a siarad ag ef, a chawn glywed beth
a ddywed."
"Yr wyf yn ddiolchgar iawn i chwi yn wir, syr, am eich ewyllys da, a'ch
cyngor caredig. Yr wyf yn teimlo yn bur isel a hiraethlawn wrth feddwl
am fyned o fy hen gartref a'm hen wlad, ond yr wyf yn ofni mai felly y
bydd. Y mae y plant yn dynn iawn am fyned, gan ein bod wedi cael y fath
gam a'r fath amharch--y mae yn rhy bell i feddwl am wneyd dim pen yn awr.
O'r braidd y gwrandawai y plant yn awr ar unrhyw gyngiad i aros yma. Yr
ydys wedi ymddwyn tuag atom yn groes i bob cyfiawnder
|