yf yn credu y buasai yn hawdd
iawn prynnu ffermydd ardderchog yno pe buasid o'r dechreu yn ymddwyn yn
agos i deg a boneddigaidd tuag at y cynfrodorion. Ond yn awr y mae Syr
Hero Harri Aliwal a'i gydswyddwyr mawrfrydig a gwronaidd, drwy
gyfarwyddyd a than awdurdod swyddfa llys uchel y taleithiau tramor, wedi
poeni a dirmygu a gormesu cynfrodorion y parthau dymunol hynny nes eu
gyrru yn wallgof gynddeiriog; ac yr ydys yn benderfynol i'w llwyr
ddiwreiddio o'r tir, a'u hymlid i ddinistr bythol cyn gynted ag y byddo
bosibl; ac y mae swyddwyr Prydain wedi chwythu un o wageni mwyaf y
brodorion yn yfflon gyrbibion er dangos fod ganddynt ddigon o bowdr i
ddryllio pob peth yno o'u blaen."
"Wel," ebe'r tad eilwaith, "pe bai ni yn gwneyd i fyny ein meddyliau i
fyned i America, a fyddai ddim yn well i ni aros ychydig i edrych beth a
ddaw?"
"Na, yn wir, yr wyf yn meddwl mai colled fyddai hynny; ac y byddai yn
llawer gwell i ni baratoi i fyned ar unwaith. Y mae yn wir y gallem ni
droi yn union y weirglodd fawr dan y ty, a'r borfa hir dan y 'sgubor
bellaf, i wenith; ond gwnai hynny lawer mwy o ddrwg i'r tenant newydd nag
a wnai o les i ni; a byddai yn well i ni ymadael heb fod dim lle ganddynt
i ddweyd ein bod ni wedi cymeryd mantais oddiwrth unrhyw gytundeb llac
penagored i wneyd dim tebyg i dro bach felly. Yr ydym ni wedi eu
gwasanaethu am dymor hir yn onest ac yn anrhydeddus, ac ni hoffwn mewn un
modd i'r un tro bach felly lychwino ein hymddygiad wrth ymadael a hwy."
"Yr wyt yn hollol right, John," ebe y tad; "ni fynnwn innau er dim redeg
y ffarm, na'i drygu mewn un modd, fel ag i golledu ein dilynwr, pwy bynag
fyddo,--oblegid" * * * * *
Ar ganol yr ymddiddan yma, daeth Foulk Edward, yr under-steward, i'r ty i
ofyn i John a'i frodyr ddyfod gydag ef yn union deg a'u harfau cau a'u
menyg i drwsio gwrych y nursery.
* * * * *
Ymhen rhyw dair wythnos ar ol hyn, pan ydoedd Squire Speedwell yn gyrru
yn lled fore ar draws Ffridd Hir Cihaul Uchaf, goddiweddwyd ef gan ruthr
trwm o eirlaw, a charlamodd ei oreu am gysgod at ysgubor uchaf Ffarmwr
Careful. Yr oedd y ffarmwr yn digwydd bod yno y pryd hynny yn trwsio ei
og fawr, ag oedd wedi cael ei thorri wrth gael ei llusgo yn erbyn
dannedd, neu ar draws asennau, y graig ddu oedd yn ngbanol ei faes
gwenith uchaf. Brysiodd y ffarmwr yn bur garedig a boneddigaidd i gael y
Squire a'i farch i ddiddosfan; ac wrth ddiolch am ei garedigrwydd,
sylwodd y Squire fod mwy na thair blynedd e
|