amaethwyr craffus, cryfion, yn
eu golwg; ond y mae yr hen General, er ei fod yn colli cannoedd arnynt
bob blwyddyn, yn rhy gyndyn i'w gosod am renti, ac ar amodau ag y gellir
byw arnynt, a thalu am danynt. A dyna ein hen gymydogion H. H., a B. W.,
a D. D. E., y rhai a gydnabyddir fel y ffarmwyr goreu yn yr holl wlad,
wedi llwyr benderfynu rhoddi eu ffermydd i fyny Wyl Fair nesaf; ac y mae
eu meistr hwy yn cael ei ystyried yn un lled deg a rhesymol: a rhywbeth
tebyg ydyw bron yn mhobman. Y gwir yw, dyrysodd rhwysg rhyfel dyddiau
gogoniant yr hen Boni wyr mawr ein gwlad; cawsant flas y pryd hynny ar
renti uchel, ac ymchwyddasant i fyw yn wastraffus ar y rhenti hynny; ac y
maent hyd heddyw heb ddysgu, neu yn hytrach heb geisio dysgu, cael pethau
i'w lle. Amserau caled iawn gafodd y ffarmwyr bron o hyd o hynny hyd
heddyw. Llai nag a feddyliech chwi o'r tenantiaid goreu sydd wedi gallu
cael dim cyflog am eu llafur, chwaethach llog am eu heiddo. Y mae
miloedd obonynt wedi rhoddi nerth eu dyddiau goreu i'w meistradoedd am
flynyddoedd lawer am ddim ond eu bwyd; ie, y maent yn dlotach o lawer yn
awr ar ol eu holl ofal, a'u holl lafur, nag oeddynt ddeng mlynedd at
hugain yn ol. Y mae yr arglwyddi tiroedd yn eu diraddio ac yn eu trin
fel caethion. Y maent yn meddwl ei bod yn fraint iddynt lafurio am ddim
er eu cynnal hwy; ac y maent yn cydymgyngreirio i gadw i fyny renti hen
ddyddiau Boni er cynnal i fyny rwysg a rhysedd gwallgofrwydd y dyddiau
hynny. Goreu i ni, yn wir, po gyntaf yr awn i'r America. Nid oes dim
golwg am ddyddiau gwell yma. Yr ydych chwi yn lled adnabyddus o
amgylchiadau y rhan fwyaf o ffarmwyr yr ardaloedd hyn. Yr wyf fi yn
barnu, yn ol pob hanes, fod y serfs yn Russia, er caethed ydynt, wedi
ennill mwy yn y deugain mlynedd diweddaf nag a enillodd y rhan fwyaf o
denantiaid ucheldiroedd Cymru. Onid ydych chwi wedi cyfaddef lawer
gwaith mai gwanychu yn raddol y maent o hyd, er eu holl ymdrech, er's
dros ddeunaw mlynedd ar hugain. Os ydyw gwersi hanesion byrion fy hen
lyfr ysgol i yn gywir, y maent yn trin tenantiaid y wlad yma yn awr yn yr
un modd yn union ag y dywedir fod barwniaid Russia yn trin eu
caeth-denantiaid. Y mae llawer o etifeddiaethau llydain yn cael eu trin
yng Nghymru yn awr yn yr un dull yn union ag yr oedd arglwyddi
gloddestgar Rhufain yn trin eu hetifeddiaethau yn mlynyddoedd olaf
adfeiliad eu hymerodraeth. Gwyddoch yn burion fel y mae y meistri
tiroedd a'u stewardiaid wedi bod yn ani
|