wedi
gofalu am y rhent i'r diwrnod. Ar ol disgwyl yn bur hir oddeutu y drws,
cafodd ei alw i mewn. Edrychodd y steward yn llym wgus arno, a dywedodd
wrtho, mewn llais cryf garw, na wnai ef ddim goddef iddo gwyno ar y
codiad diweddar, fel ag yr oedd wedi gwneyd y dydd o'r blaen wrth yr
Efail; fod ei rent ef yn bur resymol yn wir,--ei bod yn llawer is na
rhenti ffermydd cymydogaethol arglwyddi eraill. Nid oedd Ffarmwr Careful
wrth gychwyn mor fore tua'r Queen's Head, ac wrth chwysu yn ei frys i
gyrraedd yno mewn pryd, ac wrth ddisgwyl yno ar ol hynny nes oeri braidd
gormod--nid oedd ddim wedi dychymygu mai myned yno i gael ei drin a'i
athrodi felly yr oedd wedi y cyfan: a darfu i drinfa front fawaidd felly,
pan yr oedd yn agor ei glustiau a'i lygaid am ryw newydd cysurus,
gynhyrfu mymryn ar ei ysbryd; ac atebodd mewn geiriau braidd cryfach nag
a fyddai yn arfer ddefnyddio ar adegau felly,--ei fod ef a'i deulu wedi
gwneyd eu goreu yn mhob ffordd i drin yn dda; ei fod ef a'i wraig a'i
blant yn cydymroi weithio eu goreu yn fore ac yn hwyr--nad oedd byth na
smocio, nac yfed, na gloddesta, na dim o'r fath beth yn eu ty; eu bod
wedi gwario i drefnu a gwella y ffarm, y cyfan oll o'r chwe' chan punt a
dderbyniodd ei wraig yn gynhysgaeth ar ol ei thad; ei fod yn gwbl foddlon
er's blynyddau i log yr arian hynny gael myned i wneyd i fyny'r talion yn
y blynyddau drwg presennol; ei fod wedi hoff-obeithio gallu cadw y 600
pounds yn gyfain i'w rhannu yn gyfartal rhwng ei ferched ufudd a diwyd ar
ddydd eu priodi; ond yn awr, fod y 600 pounds i gyd oll wedi myned, ac na
byddai y stoc ddim yn hollol rydd ganddo ar ol y talion nesaf; ac yn wir
nad oedd dim modd iddo ef dalu am y ffarm heb gael cryn ostyngiad. Wrth
glywed hyn, dywedodd y steward yn bur sychlyd wrtho,--
"Gwell i chwi ynte roddi y ffarm i fyny."
"Yn wir, syr," atebai y tenant, "rhaid i mi ei rhoddi i fyny os na cheir
rhyw gyfnewidiad yn fuan."
"Hwdiwch ynte," ebe y steward, "dyma fi yn rhoddi i chwi notice i ymadael
Gwyl Fair."
Ar hyn, gostyngodd y tenant ei ben, ac atebodd mewn llais isel toredig, y
byddai yn galed iawn i'w deimladau orfod ymadael o hen gartref ei dadau;
ei fod ef a'i wraig a'i blant yn eu hamser goreu i drin y ffarm, ac y
byddent yn foddlon i lafurio ac ymdrechu eto am flwyddyn neu ddwy mewn
gobaith am amserau gwell. Ond brysatebodd y steward yn bur sarrug,--
"Yr wyf yn deall eich bod wedi gwario yn barod yr arian cefn oedd
gennych. Gwell i
|