chwi chwilio ar unwaith am ffarm lai. Hydiwch, dyma'r
notice i chwi ymadael. Rhaid i mi yn awr fyned at orchwylion eraill--bore
da i chwi."
Rhoddodd Mr. Careful y notice yn ei logell, a dychwelodd adref gyda
chalon drom iawn; a phan oedd yn gorffen adrodd wrth Jane ei wraig yr hyn
oedd y steward wedi ddweyd ac wedi wneyd, daeth y tri mab yn
annisgwyliadwy i'r ty. Daethant hanner awr yn gynt nag arferol, am eu
bod wedi gorffen cau y gwter fawr yng ngwaelod y braenar, a galwasant
heibio i'r ty am fara a chaws cyn cychwyn at eu gorchwylion yr ochr arall
i'r ffarm. Deallasant ar unwaith fod rhyw newydd drwg, neu ryw
amgylchiad cyfyng yn gofidio eu tad a'u mam. Bu tafodau pawb am ennyd yn
fud, ond yr oedd llygaid y plant yn dadleu fod hawl ganddynt i wybod
achos blinder eu rhieni. Penderfynodd y tad i beidio celu oddiwrth ei
blant y notice i ymadael ydoedd newydd dderbyn, ac adroddodd wrthynt yr
oll a gymerasai le. Gwrandawsant hwythau arno yn fudsynedig; ac ar ol
iddo dewi, edrychasant ar eu gilydd yn bur effeithiol, ond heb yngan
gair. O'r diwedd torrodd y tad ar y distawrwydd trwy ddweyd, megys wrtho
ei hun, mewn llais trist isel, yn cael ei hanner fygu gan gymysg
deimladau,--
"Yr oeddwn i wedi hoff-obeithio y cawswn orffen fy nyddiau yn Nghilhaul
Uchaf, ac wedi breuddwydio llawer gwaith ganol dydd a chanol nos y cawsai
fy llwch huno gyda llwch fy nhadau yn eu hen feddrod rhwng yr ywen fawr a
drws cefn y clochdy, lle y gorffwys y rhai lluddedig, ac y peidia yr
annuwiol a'i gyffro."
"Ie, ie," ebe y fam, "lle y mae John bach, fy nghyntafanedig anwyl, yn
huno yn felus ar fynwes ei dad cu tirion, a lle y mae fy anwyl, anwyl,
anw"--(ar hyn collodd y fam ei lliw--dechreuodd ei gwefusau
grynu--ymrwygodd ochenaid ddofn o gronfa ei chalon; ond nis gallodd
orffen ei dywediad). Wrth weled hynny, cododd y mab hynaf ei wyneb mawr
llydan iach gwridog; a chyda llais dwfn, cryf, caredig, effeithiol, llawn
o deimlad, naill ai teimlad o serch cynnes at ei rieni, neu ynte teimlad
o ddigllonedd brwd tuag at y gormeswyr, neu dichon y ddau deimlad yn ferw
cymysgedig, dywedodd,--
"O fy anwyl fam, na adewch iddynt ladd eich calon fel yna. Y maent wedi
gwneyd eu gwaethaf i ni. Na hidiwch mo honynt byth mwy. Na ofnwch hwy
ddim yn chwaneg. Os gwnawn ni ein dyledswydd yn y byd yma, nid yw o ddim
cymaint pwys pa le bydd ein llwch yn gorffwys. Bydd yn sicr o fod allan
o'u cyrraedd hwy; a byddwn yn sicr o ddihuno yn iach ar alwad
|