n debyg o ddilyn ei siampl. Nid oes gennyf ddim golwg yn
awr am gael gwaith, ac nis gallaf oddef meddwl am fyned ar y plwyf. Nid
wyf yn hoff o'r ysmocio a'r yfed, a'r gwasanaeth afiach a budr sydd yn
llawer o ardaloedd y gweithiau; ac mae fy ngwraig a minnau wedi gwneyd i
fyny ein meddyliau i ymfudo ar unwaith i America ar ol ein cefnder Tomy
Strong. Yr wyf newydd dderbyn llythyr annogaethol iawn oddiwrth Tomy.
Costiodd y llythyr swllt i mi, er nad yw yn pwyso mo'r bumed ran o owns.
Y mae Tomy, a phob un o'r bechgyn a'r merched a aethant gydag ef, yn
gwneyd yn dda iawn yn America; ac yr ydym ninnnau yn penderfynu myned yno
tra byddo gennym ddigon o fodd i fyned. Y mae gennym ddigon yn awr; o
leiaf bydd gennym, ar ol gwerthu hynny o ddodrefn sydd gennym, ddigon i'n
cario ni ein dau, a'n tri phlentyn bach, i Wisconsin. Pe baem ni yn
ymdroi ac yn oedi, ac aros yn segur yn y wlad yma nes i Betsy wella ar ol
y baban nesaf, mae'n bur debyg na byddai gennym ddim digon o fodd i
fyned; ac felly yr ydym yn gwbl benderfynol i fyned yn awr ar unwaith. Y
mae y rheilffyrdd a'r llongau yn cludo yn awr am brisiau pur resymol. Yr
ydym am barotoi barilaid dda o fara ceirch ac ymenyn a chaws, a thipyn o
gig moch, a phethau anghenrheidiol felly, yn ddioed: a byddwn yn wir yn
ddiolchgar iawn i chwi os rhoddwch fenthyg dwy bunt i ni am bymthegnos,
pan y caf fy nghyflog i dalu yn ol i chwi; ac yna ni allwn brynnu rhyw
betheuach anhebgorol at y fordaith am arian parod, a bydd Betsy a minnau,
os parhawn i gael ein hiechyd, yn sicr o wneyd yn dda yn America.
Gwyddoch ein bod bob amser yn foddlon i weithio, a'n bod yn hoff o
weithio, ac nad ydym byth yn ddedwydd os na bydd gennym ddigon o waith."
Methodd calon dyner John Careful wrthod cais Billy Active yn y fath
wasgfa. Estynnodd iddo y benthyg gofynedig dan bron wylo wrth feddwl am
golli teulu mor ddiwyd ac mor weithgar, mor garedig ac mor onest o'r
ardal: a thyna y chweched wobr a gafodd Ffarmwr Careful am ei ludded a'i
ofal a'i dreuliau wrth "wella" Cilhaul Uchaf.
[Cyflwynwyr Tysteb S. R.: sr57.jpg]
Ar ol dwys fyfyrdod yn ei galon ar y pethau hyn ddydd a nos am lawer o
wythnosau, teimlai John Careful fwyfwy, ac yn ddwysach ddwysach, ei fod
wedi cael cam, a'u bod wedi ymddwyn yn annheg iawn tuag ato. Ac un bore,
pan ydoedd ar dipyn o neges yn yr Efail wrth y dafarn, cwynodd yn lled
uchel, ac mewn iaith gref, yng nghlywedigaeth rhyw segurwyr masweddgar a
diog oedd yn ymlechian o am
|