FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47  
48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   >>  
yr holl ganmoliaeth oeddynt yn gael ddim yn gymorth iddynt at dalu hyd yn nod am hoelen pedol; ac felly colled o ugain punt y flwyddyn oedd y wobr gyntaf a gafodd y Farmwr Careful am ei ofal a'i ludded a'i arian gyda "gwelliantau." Gyda bod y ffarm wedi cael ei gwella a'i threfnu yn y dull a grybwyllwyd, daeth y steward heibio yn lled fore un diwrnod yn yr haf, pan oedd yr ydau ar hedeg; ac wedi dweyd "bore da i chwi" wrth John Careful, ac wedi gwneyd wyneb rhyw hanner-stewardaidd i ofyn mewn llais dienaid am iechyd a helynt ei wraig a'i blant, dywedodd dan wenu yn bur foneddigaidd fod yn hoff iawn ganddo weled Cilhaul Uchaf mewn calon ac mewn trefn mor rhagorol; ei fod yn falch iawn o'r olwg oedd ar y tyddyn, a bod yn dda ganddo fod y gair ar led fod y prisiau braidd yn codi; a bod y seneddwyr aurhydeddus ac enwog Mr. B. a Mr. D. a Mr. Y. wedi hyfgyhoeddi yn eu bareithiau diweddar o ben Assblock y farchnadfa eu bod am gymeryd i fyny achos y ffarmwr yn y senedd newydd, a'u bod am adsefydlu treth yr yd a phob cynnyrch tramor; ond ychwanegai y steward mewn llais mwyn, tyner, isel, dan fan-gecian, fod cyfiawnder ag ymddiriedaeth y swydd bwysig oedd ganddo fel steward yn ei orfodi i godi mymryn--mymryn bach ar y rhent. Nis gallai ddweyd yn fanwl y bore hwnnw pa faint, ond ymrwymai y cai y codiad fod yn bur deg a rhesymol--na chai ddim bod dros bymtheg ar hugain y cant. "A gobeithio," meddai, "yr ewch rhagoch i wella eich ffarm, oblegid yn y dyddiau goleu hyn o iawnder a diwygiad, pan y mae arglwyddi tiroedd mor enwog o ran eu craffineb a'u tegwch a'u gofal, a phan y mae y stewardiaid mor hynod o ofalus ac o gydwybodol ac o deimladwy am galonogi y tenantiaid, bydd ffarmwyr ymdrechgar yn sicr o gael tal da am eu llafur, a llog da am eu treuliau wrth wella eu tyddynod." A dyma oedd yr ail wobr a gafodd Ffarmwr Careful am ei flynyddoedd o welliantau llafurus a drudfawr yn Nghilhaul Uchaf. Cyn pen teirawr ar ol i'r steward droi ei gefn, dacw bwtyn byr tew wynebgoch pwfflyd bolfawr o ddegymwr yn dyfod drwy y nant, ac ar draws y rhos, a thros y gwrych, a'i lyfr "counts" yn ei law, ac yn dringo i edrych dros y wal i gyfrif y gwyddau oeddynt ar y llyn, ac yna yn estyn ei ben drwy y twll oddiar ddrws cut yr hwch fagu i gyfrif ei thorllwyth diweddaf; ac wedi hynny yn galw ar John Careful ato i'w holi am nifer y defaid a'r wyn noson y cneifio diweddaf, ac i ofyn iddo amryw bethau eraill; a rhybuddiai y degymwr y ffarmwr i fod yn b
PREV.   NEXT  
|<   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47  
48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   66   67   68   69   >>  



Top keywords:

Careful

 

steward

 
ganddo
 

gyfrif

 

ffarmwr

 
gafodd
 

diweddaf

 

oeddynt

 

mymryn

 

treuliau


tyddynod
 

galonogi

 
tenantiaid
 

ymdrechgar

 

deimladwy

 

ffarmwyr

 

Ffarmwr

 
llafur
 

meddai

 

gobeithio


rhagoch

 
oblegid
 

hugain

 

codiad

 

rhesymol

 
bymtheg
 

dyddiau

 
tegwch
 
stewardiaid
 

ofalus


craffineb
 

flynyddoedd

 

iawnder

 

diwygiad

 

arglwyddi

 

tiroedd

 
gydwybodol
 

thorllwyth

 

oddiar

 

gwyddau


bethau

 

eraill

 

rhybuddiai

 
degymwr
 
cneifio
 

defaid

 

edrych

 

teirawr

 

drudfawr

 

llafurus