arno,
Mewn gobaith hoff o'i gadw'n ir
Am dymor hir heb wywo.
Ond ar ddiwrnod tywyll du,
Y gobaith cu ddiflannodd;
Daeth awel oer 'nol heulwen haf,
A'r Lili braf a wywodd;
Mae'n awr yn gorwedd yn y llwch,
Heb degwch yn wywedig;
A'i berchen deimla dan ei bron
Ei chalon yn glwyfedig.
Ochenaid ddwys o'i mynwes wan,
Ac egwan lef sy'n codi,--
"A raid im' golli'r olwg ar
Fy hawddgar wiwber Lili?
Flodeuyn hardd! dy golli raid,
Er dibaid dywallt dagrau;
Llwyr ddiflanedig 'nawr yw drych
Dy unwaith harddwych liwiau.
"Dy addurnedig wisgoedd braf,
Eu gweled ni chaf mwyach;
Wrth syllu ar dy le, nid wyf
Ond gwneyd y clwyf yn ddyfnach."
Ar hyn, pan ydoedd natur wan
O dan y groes yn suddo,
I arllwys balm i'r galon brudd
Daeth gwiw Ddiddanydd heibio.
Yn dirion (nid i beri braw)
Ei ddeheu-law estynnai;
Cyd-deimlo wnai wrth wrando'i chwyn,
Ac mewn iaith fwyn dywedai,
"Na wyla mwy,--dy Lili hardd
Sy'n awr yng ngardd paradwys,
Mewn tawel gynnes nefol fro
Yn ail-flodeuo'n wiwlwys.
"Ei nodd, ei ddail, ei arogl per,
Ei liwiau ter a hawddgar,
Rhagorach fyrdd o weithiau ynt
Nag oeddynt ar y ddaear.
Ei weled gei ar fyr o dro
Yn gwisgo harddwch nefol:
I'r ddedwydd wlad dy gyrchu wnaf,
Lle t'wyna haf tragwyddol."
CAN Y NEFOEDD.
Fy enaid blinedig! cwyd d'edyn yn awr,
Ehed trwy'r wybrennau uwch gofid y llawr,
I glywed nefolion yn seinio'r trwy'r nen
Fawl ganiad i'r Iesu, dy Briod a'th Ben.
Mor hardd Ei frenhinwisg, mor uchel Ei sedd,
Mor ddisglaer Ei goron, mor siriol Ei wedd;
Aur-seren awdurdod sy'n awr ar y fron
Fu gynt yn llif-waedu o glwy'r waew-ffon.
Angylaidd gantorion gydunant mewn can
A seintiau fil miloedd, a'u gwisgoedd yn lan;
A broydd a bryniau tragwyddol y nef
Trwy'r dedwydd ororau adseiniant eu llef.
Y llu archangylaidd ddechreuant y gainc,
Gan barchus gydblygu o amgylch Ei fainc:
Y saint a'u coronau wnant balmant i'w draed,
Gan felus gydganu am rinwedd ei waed.
Pan daniodd Ei fynwes, pan gododd mewn brys,
Gan adael Ei orsedd, a'i goron, a'i lys,
A hedeg heb oedi o fynwes Ei Dad,
Ar edyn trugaredd, at ddyn yn Ei waed;
Pan welwyd E'n Faban mewn gwael egwan gnawd,
Etifedd y nefoedd o'i wirfodd yn dlawd,
Angylion a seintiau a floeddient yng nghyd,
"Gogoniant trwy'r nefoedd, Tangnefedd trwy'r byd."
Pan rodiai o amgylch, gan wneuthur lleshad
I gloffion, a deillion, a chleifion yn rhad,
Gan alw'r blinderog, yn sercho
|