FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33  
34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   >>   >|  
yn fuan i'r beddrod. Mae'r i'enctid o'm hamgylch yn heinyf a chryfion, Yn wridog eu gruddiau, yn llawen eu calon, Yn siriol gydrodio'n finteioedd diddanus, A minnau fy hunan yn llesg a methiannus. Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod, Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod. Bu amser, 'rwy'n cofio, pan gynt 'roeddwn innau Mor heinyf, a bywiog, a gwridog a hwythau, A'm dwyfron yn llawen, a'm can yn soniarus; Ond ciliodd fel cysgod, fy hafddydd diddanus. Mae f'einoes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod, Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod. Diangodd holl dirion gymdeithion fy mebyd, O gyrraedd marwoldeb, i dawel fro gwynfyd; A minnau, heb gymar, adawyd fy hunan. Mae'm calon, gan hiraeth, yn rhy lesg i gwynfan. Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod, Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod. Mae ceidwad y babell gan wendid yn crynnu, A'r heinyf wyr cryfion yn awr yn cydgrymu; Swn isel, wrth falu, wna'r felin fethedig, Ychydig yw'r meini, ac oll yn sigledig. Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod, Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod. Y gloewon ffenestri gan lenni dywyllwyd, A llydain byrth mwyniant gan henaint a gauwyd; Y cwsg a lwyr gilia wrth lais yr aderyn, A baich ar yr ysgwydd fydd ceiliog y rhedyn. Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod, Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod. Holl ferched cerddoriaeth ar unwaith ostyngir, A phopeth, wrth araf ymlwybro, a ofn; Mae chwant wedi pallu, 'does dim rydd ddiddanwch, Diflannodd pob seren dan ddulen tywyllwch. Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod, Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddrod. Y cawg aur a'r piser yn fuan a ddryllir, Y llinyn ariannaidd a'r olwyn a dorrir; Ychydig sy'n aros o flodau'r pren almon; Dadfeilio mae'r babell, llewygu mae'r galon. Mae f'einioes yn cilio, a'm dyddiau bron darfod, Caf fyned i orffwys yn fuan i'r beddnod. Hosanna!--'Rwyn teimlo fy llesg gorff yn datod, Mae'n addfed o'r diwedd i fyned i'w feddrod; Caiff gysgu heb ddychryn, dros ronyn, yn dawel, Nes hyfryd ddihuno wrth floedd yr archangel. Ac yna, heb lygredd, caiff godi'n dra siriol, I ddedwydd deyrnasu mewn i'enctid tragwyddol. Ar edyn angylaidd, heb lesgedd na methiant, Caf esgyn i dawel ororau gogoniant, I dderbyn y palmwydd, y delyn, a'r goron, A chlywed peroriaeth nefolaidd gantorion; Ac yna caf brofi'r gymdeithas a'r gwleddoedd Sy'n bythol goroni
PREV.   NEXT  
|<   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33  
34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   >>   >|  



Top keywords:

orffwys

 

beddrod

 
darfod
 

dyddiau

 

einioes

 
heinyf
 

Ychydig

 

babell

 

enctid

 

siriol


llawen
 

minnau

 
diddanus
 

Dadfeilio

 

flodau

 

beddnod

 

addfed

 
llewygu
 

teimlo

 

Hosanna


ddiddanwch

 
diwedd
 

Diflannodd

 

ymlwybro

 

chwant

 
ariannaidd
 

llinyn

 
dorrir
 
ddryllir
 

ddulen


tywyllwch
 

dderbyn

 

palmwydd

 

gogoniant

 

ororau

 

lesgedd

 
methiant
 

chlywed

 

peroriaeth

 

gwleddoedd


bythol

 

goroni

 

gymdeithas

 
nefolaidd
 
gantorion
 

angylaidd

 

hyfryd

 

ddihuno

 

ddychryn

 

feddrod