nd hon a ddwg i'm rhan
Ddedwyddawl anfarwoldeb.
Dysg fi yn nechre f'einioes frau
I rodio llwybrau'r bywyd;
A chadw'th air,--trwy fyw yn ol
Ei nefol gyfarwyddyd.
Fel ufudd blentyn, boed i mi
Byth wneyd dy dy yn gartre,
Fel caffwyf brofiad melus iawn
O'i radlawn arlwyadau.
Na ad im' ffol ymlygru byth,
Trwy fynd i blith rhagrithwyr;
Na rhedeg chwaith o lwybrau'r ne',
I eiste'n lle'r gwatwarwyr.
Dy santaidd waith a'th achos di
A fo mi'n hyfrydwch;
A gwiw gymdeithas D' anwyl blant
Fy mwyniant a'm dyddanwch.
Os caf gysuron ar fy nhaith,
Fy melus waith fydd moli:
Fy noniau oll, o galon rwydd,
I'm Harglwydd gant eu rhoddi.
Ond os caf gystudd drwy fy oes,
A dwyn fy nghroes mewn galar,
Heb ddim ond gofid ar bob cam,
Gwna fi yn amyneddgar.
Os, fel blodeuyn, gwywo wnaf
Yn nechreu haf fy mywyd;
Cymhwysa f'enaid, drwy Dy ras,
I deyrnas bythol wynfyd.
Os hir fy nhaith, rho im' Dy hedd,
Nes mynd i'r bedd i orffwys;
Ac yna seiniaf gyda'th blant
Dy foliant ym mharadwys.
CWYNION YAMBA, Y GAETHES DDU.
Er bod mewn caethiwed ymhell o fy ngwlad,
'Rwy'n cofio hoff gartref fy mam a fy nhad,
Y babell, a'r goedwig, yr afon, a'r ddol;
Ond byth ni chaiff Yamba ddychwelyd yn ol.
Dros euraidd ororau ymlwybro wnawn gynt,
Heb ofid, nac angen, yn llawen fy hynt;
A'm plant o gylch gliniau fy mhriod mwyn cu,
Heb neb yn fwy boddlon a dedwydd na mi.
Pan unwaith yn gwasgu y bach at fy mron,
A'r lleill wrth fy ymyl yn cysgi yn llon;
Disgwyliwn fy mhriod, gan sio'n ddi-fraw,
Heb feddwl fod dychryn na gelyn gerllaw.
Ond pan yn hoff sugno awelon yr hwyr,
Ar unwaith ymdoddai fy nghalon fel cwyr,--
Gweld haid o ddyn-ladron yn dyfod o'r mor,
Gan guro fy mwthyn nes torri y ddor.
Heb briod, na chyfaill, chwaer, brawd, mam na thad,
I achub y gweiniaid crynedig rhag brad,
Fe'n llusgwyd, fe'n gwthiwyd, er taered ein cri,
I ddu-gell y gaeth-long at gannoedd fel ni.
Wrth riddfan i gyfrif munudau'r nos hir,
A threiglo'n ddiorffwys fy mhen gan ei gur,
Mi gefais fy maban, ar doriad y dydd,
Yn oer ac yn farw--o'i boenau yn rhydd.
Hoff faban fy mynwes! I'r dyfrllyd oer fedd,
Er gwaetha'r gormeswr, diangaist mewn hedd:
Cei orffwys yn dawel, ni'th werthir byth mwy,
Ac ni rydd y fflangell na'r gadwyn it' glwy,
Ffodd llawer, fel tithau, o gyrraedd pob aeth;
Ond eto mae'th gu-fam anwylaf yn gaeth;
Pam rhwystrwyd i Yamba gael huno yn llon,
A'i sio i orffwys yn myn
|