FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40  
41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   >>   >|  
i oddef bythol aeth; Os yno'r a, nid oes i'r adyn ffol Ond gobaith gwan y dychwel byth yn ol. Y TWYLLWR HUDAWL. Mewn hyfryd le o gyrraedd swn y byd, Y trigai'n llon forwynig deg ei phryd; Hoff unig ferch ei dedwydd fam a'i thad, Heb dan ei bron na briw na thwyll na brad. Pan, gyda'r wawr, y pigai'n llon o blith Pei-lysiau'r maes a dagrau'r bore wlith, Y rhosyn coch a'r lili, teg eu drych, I fritho'n hardd ei swp o flodau gwych, A phan adseiniai lais yr eos fwyn, Gan heinif ddawnsio'r gan o dwyn i dwyn,-- O'r braidd, er craffu, gall'sid dweyd ar g'oedd, Pa un ai dynes ai angyles oedd. Ond gwywo wnaeth y gwrid oedd ar ei grudd, A buan ffodd y gan o'i mynwes brudd. Un hwyr, gan wisgo gwen, rhyw dwyllwr ddaeth I geisio 'i dal mewn hudawl serch yn gaeth. Wrth weld ei wen, ei chalon dyner wan, Heb feddwl drwg, orchfygwyd yn y fan: A'r gelyn cas, 'nol ei handwyo hi, Arllwysai wawd, heb wrando ar ei chri. Ei thad, wrth weld ei gwarth, creuloni wnaeth, A'i galon falch fel darn o garreg aeth; Dan erchyll reg--gan droi ei wyneb draw-- Ei gwthio wnaeth o'i dy i'r gwynt a'r gwlaw; A chloi ei ddrws, gan greulawn dyngu'n ffol, Na chai hi byth ddychwelyd yno'n ol. Ar gopa craig, wrth oleu gwan y lloer, Ei baban gaed yn farw ac yn oer; A'i ddagrau'n ia tryloew ar ei rudd, A'i ddwylaw bychain rewent wrth y pridd. Y fam, yn awr o'i phwyll, yn llwyd a gwan, A grwydrai'r dydd yn brudd o fan i fan; A'r nos, mewn lludded dost, eisteddai'n syn Dan gysgod llwyn, neu fry ar ael y bryn: Ing ar ol ing drywanai 'i mynwes brudd, Ond byth ni welid deigryn ar ei grudd. Yn glaf neu iach, ai allan ar bob hin, Ac yn ei llaw y cariai gorsen grin, Gan ddistaw ddweyd o hyd, yn syn ei gwedd,-- "Fy chwaer yw hon, a daw i wylio'm bedd." Ni soniai byth am gar, na mam, na thad, Na'i hudwr cas, nac am ei baban mad; Ymddiddan wnai, bob dydd, a'r gorsen grin, Heb deimlo dwys effeithiau 'i chystudd blin. Nes marw dan oer wlith y niwlogf nen, Heb frawd na chwaer i gynnal pwys ei phen. O'i llygredd oll ei chyflawn buro wnaed, Gan Ysbryd Duw, drwy rin y dwyfol waed; A'i henaid ffodd o'r maglau oll yn rhydd, Gan hedeg fry i wlad o fythol ddydd. Ond wrth gyfleu ei chorff i'w wely pridd, Ei thad, dan guro'i fron, felldig ai'r dydd Y gwelodd hi o'i dy yn gorfod ffoi, Mewn cyflwr gwan, heb wybod p'le i droi: A'i hudwr tlawd a welai, er ei fraw, Ddialydd llym a'i gleddyf yn ei law; A'i Farnwr dig ar ddisglaer orsedd lan, A'i w
PREV.   NEXT  
|<   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40  
41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   56   57   58   59   60   61   62   63   64   65   >>   >|  



Top keywords:

wnaeth

 

gorsen

 
chwaer
 

mynwes

 

deigryn

 
drywanai
 

Ddialydd

 

cariai

 

cyflwr

 

ddistaw


bychain
 

ddwylaw

 
rewent
 

ddisglaer

 

tryloew

 

orsedd

 

ddagrau

 
phwyll
 

gysgod

 

gleddyf


eisteddai

 
grwydrai
 

lludded

 

Farnwr

 

niwlogf

 
maglau
 

chystudd

 
effeithiau
 
gynnal
 

Ysbryd


dwyfol
 

chyflawn

 

llygredd

 

henaid

 

deimlo

 

fythol

 
gwelodd
 

felldig

 

gorfod

 

Ymddiddan


gyfleu

 

chorff

 

soniai

 
ddweyd
 
fritho
 

rhosyn

 

lysiau

 

dagrau

 

flodau

 

ddawnsio