II.
_Llais llid Iorwerth_.
Clywch! clywch! ar hyd lannau Clwyd
Ryw swn oersyn o arswyd!
Gorthaw'r donn, cerdda'n llonydd,
Ust! y ffrwd,--pa sibrwd sydd?
O Ruddlan daw'r ireiddlef
Ar ael groch yr awel gref;
Geiriau yr euog Iorwerth,
O 'stafell y Castell certh;
Bryd a chorff yn ddiorffwys,--
Hunan-ymddiddan yn ddwys:
Clywch, o'r llys mewn dyrys don,
Draw'n sisial deyrn y Saeson,--
"Pa uffernol gamp ffyrnig?
A pha ryw aidd dewraidd dig?
Pa wrolwymp rialyd
Sy'n greddfu trwy Gymru 'gyd?
Bloeddiant, a llefant rhag llid,
Gawrwaeddant am deg ryddid,--
'Doed chwerwder, blinder, i blaid
Ystryw anwar estroniaid;
Ein gwlad, a'n ffel wehelyth,--
Hyd Nef,' yw eu bonllef byth;
Ac adsain main y mynydd,--
Och o'u swn!--yn gasach sydd;
'Ein gwlad lan amhrisiadwy,'
Er neb, yw eu hateb hwy.
"Pa les yw fod im' glod glan
Am arswydo'r mawr Sawdan,--
Pylu asteilch Palestin,
Baeddu Tyrciaid, bleiddiaid blin;
Troi Chalon wron i weryd,
Ie, curo beilch wyr y byd,--
Os Gwalia wen,--heb bennaeth,
A'i mawrion gwiwlon yn gaeth,--
Heb fur prawf,--heb farrau pres,
Na lleng o wyr, na llynges,--
A ymheria fy mawr-rwysg,
Heb fy nghyfri'n Rhi mewn rhwysg?
Er cweryl gyda'r cawri,
A lladd myrdd, nid llwydd i mi;
Ni fyddaf, na'm harfeddyd,
Ond gwatwor tra byddo'r byd.
"Ha! ymrwyfaf am ryfel,
O'm plaid llu o ddiafliaid ddel:
Trowch ati'r trueni trwch,
Ellyllon! gwnewch oll allwch.
"I ti, O Angeu, heddyw y tyngaf,
Mai am ddialedd mwy y meddyliaf;
Eu holl filwyr, luyddwyr, a laddaf,
Un awr eu bywydau ni arbedaf;
Oes, gwerth, i hyn aberthaf,--gwanu hon
Drwy ei chalon fydd fy ymdrech olaf.
_Dichell Iorwerth_.
"Ha! ha! Frenin blin, i ble
Neidiodd dy siomgar nwyde?
Oferedd, am hadledd hon,
Imi fwrw myfyrion;
Haws fydd troi moelydd, i mi,
Arw aelgerth, draw i'r weilgi,
Nac i ostwng eu cestyll,
Crog hagr, sef y creigiau hyll.
"Oni ddichon i ddichell,
Na chledd na nych, lwyddo'n well?
Rhyw ddu fesur ddyfeisiaf,--
Pa ystryw ddwys, gyfrwys gaf?
Pa gais? pa ddyfais ddifeth
Gaiff y budd,--ac a pha beth?
"'Nawr cefais a wna r cyfan,--
Mae'r meddwl diddwl ar dan;
Fy nghalon drwy 'nwyfron naid,
A llawenydd ei llonaid;
Gwnaf Gymru uchel elwch,
I blygu, a llyfu'r llwch:--
I wyr fy llys, pa'nd hyspyswn
Wiw eiriau teg y bwriad hwn?"
A chanu'r gloch a wnai'r Glyw,
Ei ddiddig was a ddeddyw,--
"Fy ngwas, nac aros, dos di,
A rhed," eb ei Fawrhydi,--
"Galw ar fyrr fy Mreyron,
Clifford hoew, Caerloew lon;
Mortimer yn
|