Ond oedai Edward wedyn
Eu galw i'r llys, hysbys hyn;
Disgwyliai a dwys galon,--
Heb gau ei amrantau 'mron,
I'w fanon wirion, arab,
Ar awr ferth, esgor ar fab.
Harddai y lle--rhoi fwrdd llawn,
A gosod rhyw esgusiawn;
Ond er yr holl arfolli
Holl blaid ein penaethiaid ni
Ni charent y gwych aeron--
Y dawnsiau a'r llefau llon:
Y morfa llwm a hirfaith,
Lle berw tonn, oedd llwybr eu taith,
A myfyrient am fawrion
Aeth mewn cyrch dan dyrch y donn,--
Y glewion, enwogion wyr
Laddwyd, a'r prif luyddwyr:
Rhodient pan godai'r hedydd
Fel hyn, hyd i derfyn dydd;
A'u dyddiau oll fel diddim,
Synnent, ond ni ddwedent ddim:
Wedi egwyl ddisgwyliad,
O fewn eu bron daeth ofn brad,--
Swn, fal rhwng sisial a son,
"Llawrudd a chyllill hirion;"
'Roedd gwaelod y trallod trwch,
I wyr Gwalia'n ddirgelwch.
_Geni Tywysog_.
Wele! o'r diwedd, ar ol hir dewi,
Deuai i Iorwerth genadwri
O Gaersalwg,--gwnai ei groesholi,--
Yna ei holl anian oedd yn llonni
Hyd grechwen, pan glywodd eni--bachgen
Ag aur wialen a gai reoli.
Ac yna a'i udganwr
A'i gorn teg i gern y twr:
Galwyd arglwyddi Gwalia, ar unwaith,
Ar heng hirfaith i ddod i'r gynghorfa.
Pob rhyw gadr waladr oedd
Yn esgud yn ei wisgoedd;
Distain wnai iddynt eiste
Bob yn lwyth--bawb yn ei le:
Deuai'r Ynad dirinwedd,
Mewn parchus, arswydus wedd;
Mewn rhwysg a muner-wisgoedd,
Coron ar y coryn oedd;
A gwyneb yn llawn gweniaith,
O drefn y dechreuai draith.
"Fy neges, brif enwogion,
A glywiau teg y wlad hon,--
Nid ydyw i wneyd adwyth,
Dwyn loesion llymion yn llwyth,--
I fygwth clwyf a gwaith cledd,
Nac i lunio celanedd;
Ond o fwriad adferu
Eich hyfawl barch fel y bu;
Cymru ben baladr ffladr fflwch
Heddyw sydd eisiau heddwch;
Rhoddi Llywiawdwr addwyn,
Nwyfre maith, wnaf er ei mwyn;
Un na's trina es'roniaith,
Na swn gwag Seisonig iaith;
Fe'i ganwyd ar dir Gwynedd,
Dull Sais, na'i falais, ni fedd;
Addefir ef yn ddifai,--
Ni wyr un fod arno fai:
Yn fwynaidd gwybod fynnwn,
Beth wnewch? Ufuddhewch i hwn?"
* * * * *
Cydunent, atebent hwy,--
"Ymweledydd mawladwy,
I'n cenedl rhyw chwedl go chwith
Ydyw geiriau digyrrith;
Cymru wech,--nis cymrai hon
Lyw o astrus law estron;
Ond tynged a brwnt angen,
A gwae ei phobl, blyga'i phen:
Llin ein llon D'wysogion sydd
'Leni mewn daear lonydd:
Rho di'r llyw cadarn arnom
A dedwydd beunydd y b'om:--
Enwa 'nawr, er union waith,
Y gwr del wisga'r dalaith,
'Nol cyfraith, fel b'o rhaith rhom,
Na thyrr ing fyth awr rhy
|