dwys;
Er gogan, a phob anair,
Dysgent, pregethent y gair,
Nes cwnnu'r llesg gwan o'r llaid,--
Taro'r annuw trwy'r enaid:
Lle blin a hyll o'u blaen oedd,
Ail Eden o'u hol ydoedd;
O flaen rhain, diflannu'r oedd
Heresiau mwya'r oesoedd;
Tost iawn chwedl i genedl gam
Fu'r holiad yn Verulam:
Ugeiniau o'r Morganiaid,
Ddynion blwng, oedd yno'n blaid:
Llwyddai Ion y dynion da,
Er c'wilydd Agricola;
Ar air Ion, i lawr yr aeth
Muriau gweinion Morganiaeth.
Dynion oedd dan adenydd--ystlumaidd
Gwestl amhur goelgrefydd;
Ymagorai'r magwrydd,
Gwelen' deg oleuni dydd.
Morganiaid er mawr gynnwrf,
Hwynt yn eu llid droent yn llwfr;
Yna'r dorf anwar a dig,
At y gwyr godent gerrig,--
A mynnent bwyo 'mennydd
Y rhai ffol fu'n gwyro'r ffydd!
Ond y graslon Garmon gu
A ataliodd y teulu:
Bleiddan, ar hynny, bloeddiai,--
"Clywch! eon, ry eon rai!
Pwyllwch, arafwch rywfaint!
Godde' sy'n gweddu i saint;
I'n Duw y perthyn dial,--
I'r annuw ein Duw a dal;
Par ei farn am bob rhyw fai,
Llaw dialedd lle dylai.
Ond cafodd fodd i faddau,--
Drwy gur un--gall drugarhau;
Y garw boen, hyd gaerau bedd,
Agorai gell trugaredd;
A'n harch gwir, i lenwi'r wlad
Yn farn am gyfeiliornad,
Yw troi, o ras ter yr Ion,
Galonnau ein gelynion
I droedio wrth ddeddf dradoeth;
Dyn yn ddwl,--Duw Ion yn ddoeth.
Felly yn awr, dan wawr well,
Pob un ant tua'u pabell;
Nef uchod rhoed Naf i chwi,--
Mewn heddwch dychwelwch chwi."
Tra llefarodd, troell fawrwych
Anian droes yn iawn ei drych;
Y dymer ydoedd dwymyn
Dda'i yn ei lle,--toddai'n llyn.
Gwelent ei drwg--amlwg oedd,
A'u llid--mor fyrbwyll ydoedd;
Ust! tawelynt drwyddynt draw,
O dawelwch, doi wylaw.
'Nawr o'u dwrn yn ara' deg
Parai gwir gwymp i'r garreg;
Trwst y main, a'r ubain rhwydd
Dwys, a dorrai'r distawrwydd.
Yna'r gynulleidfa'n llon
Ddychwelent--(gwedd a chalon
Eto'n awr yn gytun oedd,)
Law yn llaw, lonna lluoedd.
_Cyrraedd Ystrad Alun_.
Dau gennad gwyn! Wedi gwyl
Hwy gyrchent at eu gorchwyl.
Llafurient a'u holl fwriad,
Dan Ior i oleuo'r wlad;
A'i dwyn hi dan ordinhad
Da reol, o'i dirywiad;
Dan y gwaith heb lid na gwg,
Trwy erlid, ymlid amlwg,
Doent wrth deithio bro a bryn,
I olwg Ystrad Alun;
Elai'r gwyr, gan eilio'r gan,
Drwy Faelor, oror eirian.
Hwyr hithau ddwyrai weithion,
Llwydai fry ddillad y fron;
Ucheron, {53} uwch ei chaerydd,
A'i t'wysai, pan darfai dydd;
Y lloer, a'i mantell arian,
Ddeuai un modd, yn y man;
Daeth o le i le fel hyn
Y faith yrfa
|