adroddais
ef; ond yn hytrach er eich annog i uno gyda mi mewn diolchgarwch i'r Duw
a fu mor dirion wrthyf. Bydd yn dda genych glywed fy mod i ac oddeutu
hanner dwsin o'm cyd-ysgolheigion wedi llwyddo i gael Cymdeithas Genadawl
fechan yn ein hathrofa. Yr ydym hefyd yn ymgyfarfod yn ystafelloedd ein
gilydd, yn olynol, ar nosau Sul, i ddarllen y Bibl a gweddio. Nos Sul
diweddaf yr oeddynt oll yn fy ystafell i: a phan byddo dadwrdd cyfeddach
yn taro ar ein clustiau o ystafelloedd eraill, gallwn ddweyd, "Rhoddaist
fwy llawenydd yn ein calon nag yr amser yr amlhaodd eu byd a'u gwin
hwynt."
Hyfryd iawn oedd genyf glywed am ymwared fy anwyl chwaer. Cofiwch fi ati
yn garedig, at fy mrawd, yr holl blant, ac yn enwedig at y ferch
ddieithr. Buasai dda genyf allu anfon anrheg iddi hi a'i mam, ond mae
hynny yn bresenol o fy nghyrraedd. Gadewch iddo--mae'r galon yn llawn,
os yw'r pwrs yn wag. Byddwch gystal a rhoddi y penhillion canlynol iddi
yn lle _Valentine_:
Henffych, ferch, i fyd o ofid,
Byd y dagrau, byd y groes:
Agoraist lygad ar yr adfyd,
Ti gei flinder os cei oes.
Mae gwlad well tu draw i'r afon,--
Nes cael glan ar oror iach,
Rhag pob drwg, y Duw sy'n Sion,
Fo'n dy noddi, Marged bach.
Mae'm dychymyg fel yn gwrando
P'un a glywaf mo dy sain,--
Gan holi'r awel sy'n mynd beibio,
A yw'th wyneb fel dy nain?
A oes eurwallt ar dy goryn?
A oes rhosyn ar dy rudd?
A pha dybiau sydd yn dirwyn
Drwy'th freuddwydion nos a dydd?
Pe bawn yna, anwyl faban,
Mi'th gofleidiwn gyda serch;
Ceit fy mendith am dy gusan,
Mi'th gyfrifwn fel fy merch:
Ac os try Rhaglumaeth olwyn
Fyth i'm dwyn i dir fy ngwlad,
Ti gei weled y gall rhywun
Garu ei nithoedd megis tad.
Yr wyf yn gyrru --- i Ruth: mae yn rhy fychan, ond y gwir yw hyn,--hyd
wyl Mihangel nesaf byddaf yn llwm iawn o arian; wedi hynny, caf dderbyn
swm ychwanegol yn y flwyddyn. Yna mi ofalaf am dalu eich rhent, eich tir
pytatws, a phesgi'r mochyn. Rhoddwch ddillad da am Ruth . . . Unwaith
eto, yr wyf yn eich tynghedu, na oddefwch eisiau dim. Gyda bendith, nid
oes perygl na allaf ei dalu yn ol ar ei ganfed. Pa beth ydyw gwaith fy
nhad? A ydyw'n esmwyth? Cofiwch fi yn garedig at deulu Broncoed, a
rhoddwch fy serch at fy hen gyfeillion oll . . . Mae amser a phapur wedi
pallu, y gloch yn taro pedwar yn y borau--a'r ganwyll yn llosgi i'r
ganwyllbren--ni chaf ond dywedyd fy mod yn aros,
Eich dyledog fab,
J. BLACKWELL.
CYWY
|