us, a chael pob peth wrth fy modd. Y mae y cyflwr
unig y gadewais chwi ynddo, yn peri i mi hiraethu mwy am danoch y tro hwn
nag un tro o'r blaen. Buasai yn dda gan fy nghalon gael aros yn agos
atoch nes i angeu ein gwahanu. Ond nid felly y mae Rhagluniaeth yn
trefnu: rhaid i ninnau ymostwng. O ddiwrnod i ddiwrnod daw y flwyddyn i
fyny, pan y caf eich gweled, gobeithio, mewn gwell iechyd ac ysbrydoedd
nag y gadewais chwi. Yn y cyfamser erfyniaf arnoch, er dim, i gadw eich
meddwl mor dawel ag y galloch: ar hyn y mae eich cysur chwi a minnau yn
ymddibynu. Ni wna tristhau ac ymofidio ddim ond gwaethygu eich llygaid
dolurus, a chlwyfo meddwl y rhai a'ch carant. Digon gwir cawsom golled
fawr,--collasom y cyfaill ffyddlonaf a thirionaf a welsom erioed; eto "na
thristawn fel rhai heb obaith." Oni adawodd dystiolaeth ar ei ol ei fod
wedi myned i ddedwyddwch--i wlad well na daear, "lle y gorffwys y rhai
lluddedig, ac ni chlywant lais y gorthrymydd." Ac os dilynwn ei lwybrau,
ni a gawn ei gyfarfod eto mewn ardal nad oes na phechod, na phoen, nag
ymadawiad o'i mewn. "Gwir ddymuniad fy nghalon, a'm gweddi ar Dduw sydd
erddoch."
CWYN AR OL CYFAILL.
_Pan hirarosai yn Rhydychen, Mehefin, 1827_.
(Efelychiad o "Bugail Cwmdyli," gan I. G. G.)
Trwy ba bleserau byd
Yr wyt yn crwydro c'yd?
Mae pleser fel y lli',
A'r moethau goreu i mi
Yn wermod hebot ti,
Sior anwylaf.
Trwm wibio llygad llaith
Am danat yw fy ngwaith;
A rhodio godre'r bryn,
A gwyrddion lannau'r llyn,
Lle rhodit ti cyn hyn,
Sior anwylaf.
Mae peraidd flodau d'ardd
Yn gwywo fel dy fardd;
A'th ddefaid hyd y ddol,
A'u gwirion wyn o'u hol
Yn gofyn ddo'i di'n ol,
Sior anwylaf.
Mae'n Nghymru laeth a mel,
Mae'n Nghymru fron ddi-gel,
Mae'n Nghymru un yn brudd
O'th eisiau, nos a dydd,--
A'i gair wrth farw fydd,
Sior anwylaf.
MARWOLAETH YR ESGOB HEBER.
Lle treigla'r Caveri {101} yn donnau tryloewon,
Rhwng glennydd lle chwardd y pomgranad a'r pin
Lle tyfa perlysiau yn llwyni teleidion,
Lle distyll eu cangau y neithdar a'r gwin;
Eisteddai Hindoo ar lawr i alaru,
Ei ddagrau yn llif dros ei riddiau melynddu,
A'i fron braidd rhy lawn i'w dafod lefaru,
Ymdorrai ei alaeth fel hyn dros ei fin:--
"Fy ngwlad! O fy ngwlad, lle gorwedd fy nhadau!
Ai mangre y nos fyddi byth fel yn awr?
Y Seren a dybiais oedd Seren y borau,
Ar nawn ei disgleirdeb a syrthiodd i lawr;
Y dwyrain a wenai, y tymor tywynnodd
|