FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   1   2   3   4   5   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25  
26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   >>   >|  
The Project Gutenberg eBook, Gwaith Alun, by Alun, Edited by Owen M. Edwards, Illustrated by John Thomas This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included with this eBook or online at www.gutenberg.net Title: Gwaith Alun Author: Alun Release Date: February 1, 2005 [eBook #14865] Language: Welsh Character set encoding: ISO-646-US (US-ASCII) ***START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK GWAITH ALUN*** Transcribed from the 1909 Ab Owen edition by David Price, email ccx074@coventry.ac.uk GWAITH ALUN [John Blackwell (Alun): alun0a.jpg] [Gwaith Alun: alun0b.jpg] Rhagymadrodd. Ganwyd John Blackwell (_Alun_) mewn bwthyn ger y Wyddgrug yn 1797. Un o Langwm oedd ei fam--gwraig ddarbodus a meddylgar; a dilynai ei mab hi i'r seiat a'r Ysgol Sul, gan hynodi ei hun fel dysgwr adnodau ac adroddwr emynau. Mwnwr call, dwys, distaw, oedd ei dad, a pheth gwaed Seisnig ynddo; cydymdeimlai yntau a'i fachgen. Yn unarddeg oed, heb addysg ysgol ond yn awyddus am wybodaeth, prentisiwyd ef gyda chrydd oedd yn fardd. Pan yn ddwy ar bymtheg, wedi bwrw ei brentisiaeth, medrai fforddio prynnu llyfrau; a cherddai'n aml i Gaer i chwilio'r siopau. Derbyniai gylchgronau, prynnai lyfrau Cymraeg, chwiliai am feirdd. Llenorion yr ardal oedd ei gyfeillion, y gynghanedd ei hoffter. Yn 1823 disgleiriodd fel seren yn awyr Eisteddfod Cymru. Yn Eisteddfodau Rhuthyn, Caerwys a'r Wyddgrug tynnodd sylw; gyda'i awdl Genedigaeth Iorwerth II. yn y gyntaf, a chyda'i awdl Maes Garmon yn yr olaf. Yr oedd ei fryd erbyn hyn ar gymeryd urddau eglwysig, a chafodd noddwyr caredig. Yn 1824 aeth i'r Beriw, pentref hyfryd ger y fan yr abera afon Rhiw i afon Hafren. Yma dysgai Ladin a Groeg gyda'r ficer, y Parch. Thomas Richards. Yn y lle tawel Seisnig hwn, cymerodd ei awen edyn ysgafnach, cywreiniach. Clerigwyr pobtu'r Hafren oedd ei gyfeillion, ac yn eu mysg yr oedd Gwallter Mechain ac Ifor Ceri. Yma, at Eisteddfod y Trallwm, y cyfansoddodd ei draethawd gorchestol ar yr iaith Gymraeg. Yn Rhagfyr, 1825, ymaelododd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen; pasiodd ei arholiad gradd olaf ym Mai, 1828. Ymdrechodd yn galed; a'i fryd ar lwyddiant yn yr arholiadau, ar astudio llenyddiaeth Gymreig, ac ar ymbaratoi at waith pwysig ei fywyd. Gloewodd ei awen, a dysgo
PREV.   NEXT  
|<   1   2   3   4   5   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25  
26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   >>   >|  



Top keywords:

Gwaith

 
Hafren
 

Eisteddfod

 

GWAITH

 

Seisnig

 
gyfeillion
 
Blackwell
 
Thomas
 

Wyddgrug

 

Project


Gutenberg

 
gyntaf
 

urddau

 
Iorwerth
 

gymeryd

 
Garmon
 

hoffter

 

Derbyniai

 

siopau

 

chwilio


gylchgronau

 
prynnai
 

Cymraeg

 
lyfrau
 

fforddio

 

medrai

 
prynnu
 
llyfrau
 

cherddai

 

chwiliai


feirdd

 

Eisteddfodau

 
Rhuthyn
 

Caerwys

 

tynnodd

 
Llenorion
 

gynghanedd

 

eglwysig

 

disgleiriodd

 
Genedigaeth

Ngholeg

 

Rhydychen

 

pasiodd

 

arholiad

 

ymaelododd

 

draethawd

 
cyfansoddodd
 

gorchestol

 
Rhagfyr
 

Gymraeg