rms, lle y cydsyniodd y gwladgarol Syr Edward Llwyd i gymeryd y
gadair yn ein Heisteddfod; a rhoddodd 5l. at ddwyn y draul. Gosododd
y mater o flaen yr uchel-reithwyr (_grand jury_) am y Sir, a
thanysgrifiodd pob un o honynt bunt, gydag addaw ei noddi. Taflodd yr
Uchel-sirydd ei deir-punt at y draul, gan addunedu, er mai Sais oedd, y
byddai iddo noddi athrylith gwlad ei henafiaid hyd angeu. Dyma ddechreu
yn iawn onide! Bellach, fy nghyfaill, ni raid i chwi wrido wrth son am
eich sir gynhennid. Mae tan yn y gallestr, ac wedi ei tharaw o dde, hi a
wna holl Gymru "yn brydferth goelcerth i gyd." Gosododd Callestr yr
engraifft i holl siroedd eraill Cymru, trwy gymeryd y peth yn orchwyl y
sir, yn y cyfarfod uchaf sydd ganddi.
Nid oeddym ar y cyntaf yn meddwl ond am un bunt yn wobrau am y
cyfansoddiadau goreu; maent yn awr wedi eu codi i bump, a disgwylir pan y
cyferfydd y dirprwywyr nesaf y gellir eu hychwanegu eto. Dyna'r pryd y
llwyr benderfynir ar y testynau, yr amser, y barnwyr, a'r gwobrau; a
byddaf yn sicr o anfon rhai o'r hysbysiadau argraffedig yn gyntaf oll i
fy nghyfaill caredig a gwresog o Gaer, heb ddymuno mwy na'i weled yn
ymgeisiwr llwyddianus.
Mi a glywais fod Mrs. Parry a'i mab yn iach galonnog.--Dyma i chwi
ychydig rigwm a gysoddais wythnos neu ddwy yn ol, ar destun a mesur can
ragorach y doniol Erfyl. Chwi a welwch wrthi mai amcan at annerch y "gwr
ieuanc dieithr" ydyw, fel pe buaswn wyddfodol.
Henffych, amhrisiadwy drysor,
Blaenffrwyth y serchiadau mad;
Ni fedd natur bleser rhagor
Na theimladau mam a thad.
Wrth olygu'th wyneb siriol,
Gaiff dieithr godi ei lef,
'Mhell uwchlaw syniadau bydol--
Erfyn it' fendithion Nef?
Nid am gyfoeth, clod, na glendid
Caiff fy nymuniadau fod;
Dylai deiliaid tragwyddolfyd
Gyrchu at amgenach nod.
Boed i'th rudd sy'n awr a'i gogwydd
At y bur dyneraidd fron,
Ddangos oedran diniweidrwydd,--
Gwisged bob lledneisrwydd llon.
Dy wefus sydd wrth ei chusanu
'N ail i rosyn teg ei liw,--
Boed i hon yn ieuanc ddysgu
Deisyf am fendithion Duw.
Na wna achos wylo defnyn
O'r llygaid 'nawr mewn cwsg sy'n cloi,
Ond i dlodi dyro ddeigryn
Os na feddi fwy i'w roi.
Dy ddwy law, sy'n awr mor dyner,
Na bo iddynt gynnyg cam;
Ond rho 'mhleth i ddweyd dy bader
Ac i ofyn bendith mam.
Na boed gwen dy wyneb tirion
Byth yn gymysg gyda thrals,
Ac na chaffo brad ddichellion
Le i lechu dan dy ais.
Na boed byth i'th drae
|