weled
A thir y Gryw, a thrwy Gred.
Y Rhyddid sydd gyd-raddawl,--oll hydrefn
A llywodraeth wladawl,
Sydd dda;--a chyd-gerdda gwawl
Gair yr Iesu, gwir rasawl.
A llwydd Dduw iddi, a lleoedd heddwch,
Gyrred allan o'i gaerau dywyllwch:
I ni y mae digon yma o degwch
Gael in', a'i hurddas, Gwalia'n ei harddwch;
Nes troi'n glynnau'n fflamau fflwch,--a'n creigiau,
Llonned ei dyddiau'n llen a dedwyddwch.
HAWDDAMOR.
Englynion ar agoriad Eisteddfod Caerwys, 1823.
Nawddamor bob gradd yma,--orwych feirdd,
Rhowch fyrddau 'ni wledda;
Lluman arfoll Minerfa
Sydd uwch Caerwys ddilys dda.
Bu Caerwys, er pob corwynt--a 'sgydwai
Weis cedyrn eu tremynt,--
Er braw, anhylaw helynt,
Nyth y gain farddoniaeth gynt.
Troi o hyd mae byd heb oedi--a'n isel,
Mewn oesoedd, brif drefi;
Rhoes Groeg hen, a'i Hathen hi,
Awr i Gaerwys ragori.
[Caerwys. "Er braw, anhylaw helynt,
Nyth y gain farddoniaeth gynt.": alun40.jpg]
[Un O Heolydd Caerwys. "Rhoes Groeg hen, a'i Hathen hi,
Awr i Gaerwys ragori.": alun56.jpg]
DAFYDD IONAWR.
Englyn o fawl i'r Bardd clodwiw am ei ymdrechiadau haeddbarch i ddiddyfnu
yr Awen oddiwrth ffiloreg a sothach, a'i chysegru i wasanaeth rhinwedd a
duwioldeb.
Yr Awen burwen gadd barch,--unionwyd
Gan IONAWR o'i hamharch;
Hefelydd i glaf alarch
A'i mawl yw yn ymyl arch.
GWYL DDEWI.
Penhillion a ddatganwyd yn Nghymdeithas Gymroaidd Rhuthyn, Gwyl Ddewi,
1823.
Ton,--"_Ar hyd y Nos_."
Trystio arfau tros y terfyn,
Corn yn deffro cawri y dyffryn,--
Tanio celloedd--gwaed yn colli,
Yn mro Rhuthyn gynt fu'n peri
I'r ael dduo ar Wyl Ddewi,
Ar hyd y nos.
Heddyw darfu ystryw estron,
Ellyll hwyr, a chyllill hirion;
Saeson fu'n elynion inni,
Heno gwisgant genin gwisgi--
Law-law'n dawel Wyl ein Dewi,
Ar hyd y nos.
Clywch trwy Gymru'r beraidd gyngan
Rhwygo awyr a goroian--
Swn telynau--adsain llethri--
O Blumlumon i Eryri--
Gwalia ddywed--'Daeth Gwyl Ddewi,'
Ar hyd y wlad.
Felly ninnau rhoddwn fonllef
Peraidd lais ac adlais cydlef;
Rhaid i'r galon wirion oeri
Cyn'r anghofiwn wlad ein geni,
Na gwledd Awen bob Gwyl Ddewi,
Ar hyd y wlad.
EISTEDDFOD Y WYDDGRUG.
AT MR. E. PARRY, CAERLLEON.
_Wyddgrug, Awst 16eg, 1823_.
Goroian! goroian! Mr. Parry anwyl. Bydd Callestr yn enwocaf o'r
enwogion eto. Yr ydwyf newydd ddychwelyd o ystafell y dirprwywyr yn y
Leeswood A
|