Iaith hudoliaeth y delyn?
Onid yw iaith fyw mor fad--yn deilwng
O'n dilyth arddeliad?
Neb ond un gwrthun a'i gwad
Neu a ludd ei choleddiad.
Y mae doethaf gymdeithion--Cymroaidd,
Ac amryw o'r Saeson--
Y'Ngwalia mae angylion
Gyda'u heirf am gadw hon.
A cheir yn pleidio ei choron--euraidd
Iorwerth a'i gyfeillion,
A gwr mawr o gyrrau Mon
Yn Llywydd yn Nghaerlleon.
Mwy addas i was isel--a'i osgedd
Am esgyn yn uchel,
Garu ei iaith, a'r gwr wel
Werth ei hurdd wrth ei harddel.
O'i gwrthod, gwawd ac erthwch,--a'i dilyn
Hyd elor drwy dristwch;
Ni cha lin goruwch ei lwch,
O glod goreu gwladgarwch.
Boed gan Gymro ym mhob broydd--o'i brif-iaith
Bur fost yn lle c'wilydd,
Fel na ddel, tra y del dydd,
Lediaith ar ein haelwydydd.
TELYN CYMRU.
_Allan o Saesoneg Mrs. Hemans, i Gymdeithas Gymreigyddol
Rhuthyn, 1824_.
O delyn oesol! dyro eto gainc,
Fel pan ewynai'r hirlas yn y wledd;
Pan gurai bronnau gan wladgarol ainc,
Pan wlychid byrddau Owain gan y medd:
O Delyn! deffro 'ngrym yr oesoedd hen,
Adleisia'r bryn dy geinciau gyda gwen.
Dy dant ni's tyr--Rhufeinydd erchyll don
Ddaeth dros las ddyfroedd, gyda llawer rhwyf,
Enynai fflam trwy dderi sanctaidd Mon,
A gwnai gromlechau'n garnedd yn ei nwyf,
Rhoi lwch y creiriau gyd a'r gwynt a'r lli',
Delyn, rho gainc, nis gallai d'atal di.
Dy dant ni's torrir. Chwyfiodd baner Sais
Yn ddig ar awel flith Eryri gerth,
Uwch bloedd ei udgyrn, clywid swn dy lais,
Pan guchiai'i gestyll ar y clogwyn serth,
Cynhyrfai'th don y dewrion i fwy bri,
Eu llethri oedd ganddynt, bronnau rhydd, a thi
Oes ddu oedd hon; pan gwympai'r glew dirus,
Pan dyfai chwyn gylch bwrdd lle gwleddodd cant,
Pan lechai'r llwynog yn y drylliawg lys,
Oedd nerth i ti'r pryd hyn--dawn ym mhob tant,
Yn nyddiau hedd dy geinciau grymus gyr,
O Delyn ber! o'th dannau un ni's tyr.
AT EI RIENI.
_Athrofa'r Iesu, Rhydychen,
Chwefror, 11fed, 1826_.
ANWYL RIENI,
Yn lle esgus dros fod yn ddistaw cyhyd, rhoddaf i chwi hanes byr o'r modd
yr ydwyf yn byw. Wrth ymdrechu dyfod i fyny gyda y rhai a gawsant bob
mantais ysgolheigaidd ym moreu eu hoes, yr wyf yn gorfod bod yn ddiwyd
iawn wrth fy llyfrau. Nid ydyw treiddio i mewn i ieithoedd ond gorchwyl
sych a diffrwyth, ac i un yn fy sefyllfa i, o ran gwall cyfleusterau
boreuol, y mae yn waith digon caled. Am y tro cyntaf yn fy mywyd, yr
|