d ysgogi
Oddiar ffordd ddaionus Duw:
Er ei chau a drain a drysni--
Llwybr i'r Baradwys yw.
Boed i'th riaint fyw i'th arwain
Gam a cham ar lwybrau gwir;
Na foed arnat ras yn angen
Tra yma yn yr anial dir.
Yr ydwyf yn gyrru eich llyfrau yn ol, gyda'r diolchgaiwch gwresocaf am eu
benthyg. Yn y sypyn, hefyd, cewch hen ysgrif-lyfr, haws ei ddeall na'r
llall: mynnwn gyfeirio eich sylw at y "Cywydd i law merch," ac ni chewch
eich siomi. Mae beirniaid da wedi meddwl mai llaw ysgrifen SION TUDUR ei
hun ydyw y llyfr hwn, ond prin y gallaf goelio hynny. Yn Rhuthyn y
prynais i ef, am 1s. 6c. 'Digon o newid arno,' meddwch chwithau. Pe
meddyliwn na byddai yn bechod anfaddeuol, gormeswn ar eich tiriondeb
ymhellach, a gofynwn am fenthyg _Transactions of the Cymmrodorion_,
yn ol gyda'r dygiedydd. Yr ydwyf, ar ddymuniad gwr Eglwysig, yn bwriadu
cyfieithu "Hanes y Cymry, o farwolaeth Llewelyn hyd eu hundeb a Lloegr."
Maddeuwch fusgrellni fy llythyr,--yn wir mae gorfoledd am lwyddiant ein
Heisteddfod wedi fy nghymysgu yn llwyr, fel na wn pa beth a ysgrifenais.
"RHYWUN."
Clywais lawer son a siarad
Fod rhyw boen yn dilyn cariad;
Ar y son gwnawn innau chwerthin
Nes y gwelais wyneb Rhywun.
Ni wna cyngor, ni wna cysur,
Ni wna canmil mwy o ddolur,
Ac ni wna ceryddon undyn
Beri im' beidio caru Rhywun.
Gwyn ac oer yw marmor mynydd,
Gwyn ac oer yw ewyn nentydd;
Gwyn ac oer yw eira Berwyn,
Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun.
Er cael llygaid fel y perlau.
Er cael cwrel yn wefusau,
Er cael gruddiau fel y rhosyn,
Carreg ydyw calon Rhywun.
Tra bo clogwyn yn Eryri,
Tra bo coed ar ben y Beili,
Tra bo dwfr yn afon Alun,
Cadwaf galon bur i Rywun.
Pa le bynnag bo'm tynghedfen,
P'un ai Berhiw ai Rhydychen,
Am fy nghariad os bydd gofyn,
Fy unig ateb i fydd--Rhywun.
Caiff yr haul fachludo'r borau,
Ac a moelydd yn gymylau,--
Gwisgir fi mewn amdo purwyn
Cyn y peidiaf garu Rhywun.
[Cartref Gwyn: "Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun.": alun48.jpg]
MAES GARMON.
_Rhagymadrodd_.
Boed Hector flaenor a'i floedd,
Eirf Illium a'i rhyfeloedd,
Groeg anwar mewn garw gynnen,
Bynciau y per Homer hen;
Hidled Virgil, wiwged was,
Win awen uwch AEneas;
Gwnaed eraill ganiad eurwedd
Am arfau claer,--am rwyf cledd,
Byllt trwy dan gwyllt yn gwau,
Mwg a niwl o'r magnelau;
Brad rhyw haid, a brwydrau hen,
Oes, a phleidiau Maes Flodden; {45a}
Gwarchau, a dagrau digrawn,
Cotinth a Valencia lawn, {45b}
Eilia
|