FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48  
49   50   51   52   53   54   55   >>  
sant 'nol gweini'r swydd Ystyriol--mewn distawrwydd, Yn ei wisgoedd wnai esgyn I ochr llethrawg, frithawg fryn; Ac eurmyg lleuai Garmon, A'i dafod aur, eiriau'r Ion; Gwrthbrofi, dynodi wnaeth Amryw gynneiddf Morganiaeth; Mor ffraeth ei araeth euraidd,-- Enaid a grym hyd y gwraidd; Y llu ddaeth i gablu gwyr, Hwy ddeuent yn weddiwyr: Trwy'r gair llym y troir gerllaw Annuwiolion i wylaw; Pan felltenai Sinai serth I gydwybod,--gwaed aberth Wna'i fellten a fa'i wylltaf Ddiffodd, yn hedd ffydd yn Naf; Agorai wefus gwrel, A'i fant a ddyferai fel; Drwy lawn gainc, darluniai gur Tad a Cheidwad pechadur,-- Yr iawn a ro'es, drwy loes lem, Croeshoeliad Oen Caersalem; Ban dug, trwy boenau dygyn, Fodd i Dduw faddeu i ddyn;-- Ei araeth gref am wyrth gras Wnai un oer bron yn eirias. _Dychryn y ffoaduriaid_. Ynghanol y dduwiol ddysg, Clywid cynnwrf, twrf terfysg; Llefau galar gyda'r gwynt, Sitwyr yn neshau atynt! Ar hyn, dyna ofngar haid O derydd ffoaduriaid,-- Lu gwael o liw--ac ael wleb, A gwannaidd oedd pob gwyneb: "Daeth," dyhenent d'wedent hwy, "Awr hyf warth a rhyferthwy; Mae Saison, anunion wyr, A brathawg lu y Brithwyr, A'u miloedd dros dir Maelawr,-- Gwelsom fin y fyddin fawr! Temlau a thai llosgai'r llu-- Nen a magwyr sy'n mygu; Ha! erlidiant ar ledol Y rhai ddaeth yn awr i'r ddol; Clywch don anhirion eu nad, Ffown, ffown! am amddiffyniad." Y gair, fel loes gwefrawl, a Darfodd pob rhan o'r dyrfa; A chwerw nod dychryniadau Oedd yn eu gwedd hwy yn gwau; Mewn ofnawl, ddidawl ddadwrdd, Mynnent ymroi, ffoi i ffwrdd; Ond Rhufon, drwy fwynlon fodd, Un teilwng, a'u hataliodd-- Nad oedd y fyddin, erwin hynt, Eto yn agos atynt: Enynnodd aidd hen anian Y milwr dewr, mal ar dan. _Milwr a Sant_. "Rhyfel!" dolefai Rhufon, Ag araul fryd gwrol fron, "Heddyw fy hen gleddyf hir, I ddwyn aeth a ddyncethir; Gwnaf wyrthiau trwy gnif erthwch-- Gwnaf weld eu llu'n llyfu'r llwch; Codwn, arfogwn fagad O wrol wych wyr y wlad; A'm milwyr a'u hymwelant, Pob gwr fydd gonc'rwr ar gant; Wyf Rufon, er f'oer ofid, A ddeil arf drwy dduwiol lid; Terwyniant ein tariannau Ni ddeil bron y galon gau; Heno o'u balch lu, ni bydd Un i leidio'n haelwydydd; Trwy ryfel dihefelydd, Ac enw Duw,--cawn y dydd! Y'mlaen! pur yw'n hantur hon!" "Arafa, danbaid Rufon!" Eb Garmon,--"Er pob gormes Yn fur prawf, yn farrau pres, Mae telid gadernid Ion Is awyr o gylch Seion; Ei phen a'i hamddiffynydd Yw'r Duw sy'n Greawdw
PREV.   NEXT  
|<   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48  
49   50   51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

ddaeth

 

ffoaduriaid

 

Rhufon

 

fyddin

 

dduwiol

 

araeth

 
Garmon
 

Ystyriol

 

hataliodd

 
Enynnodd

Rhyfel

 

gleddyf

 

ddyncethir

 

Heddyw

 
dolefai
 

teilwng

 
amddiffyniad
 

gwefrawl

 

Darfodd

 

anhirion


Clywch
 

chwerw

 

Mynnent

 

ffwrdd

 

fwynlon

 
distawrwydd
 

ddadwrdd

 

ddidawl

 

dychryniadau

 

ofnawl


hantur

 

leidio

 

haelwydydd

 

dihefelydd

 

danbaid

 
hamddiffynydd
 

Greawdw

 
gadernid
 

gormes

 

farrau


milwyr

 
hymwelant
 

erthwch

 

arfogwn

 

Terwyniant

 

tariannau

 
gweini
 

wyrthiau

 
Morganiaeth
 
gynneiddf