FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36  
37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  
law mewn Haleluia: "Yna y tyf yn y tir Bob helaeth wybodaeth bur, O ddirgelion meithion mor, Daear, a'i sail, hyd i'r ser. "Helicon pob ffynnon ffel, Parnassus pob bryn isel: Eu rhyfedd faner hefyd Achuba, orchfyga fyd; O Gressi'r maes hagr asw, I antur lan Waterlw: Ac y diwrnod cadarnwych Bydd y deyrnas addas wych Heb ei bath, heibio i bob Un arall o fewn Ewrob; Rheola mewn rhialyd O begwn i begwn byd." Gyda bloedd, gweda Bleddyn, "Y nefol Ior wna fel hyn, Foreu tawel o frad tywyll, A llewyrcha o'r ddichell erchyll: Molwn Dduw y Nef, gan sefyll, Yna pawb a awn i'n pebyll." CERDD CALAN GWYLIEDYDD Y WYDDGRUG. Ymysgydwch o'ch cysgadrwydd-- Yn filoedd dowch i foli Duw; Torrodd gwawr ar flwyddyn newydd, Gobeithiaf mai un ddedwydd yw: Mae pob Calan fel yn gwaeddi, A'r tymhorau bob yr un,-- Yn eu dull yn dwys bregethu-- "Derfydd dyddiau byrion dyn." Heddyw'm gorchwyl innau dderfydd, Alwai'n chwaneg mo'no chwi; Drwy fy nghylch yn bur wyliedydd A lladmerydd y bum i; Mi fynegwn ddull y tywydd, P'un ai teg ai garw'r gwaith, Fel y gwypech ar obenydd Ai addas oedd y dydd i daith. Do, mi wyliais gylch eich drysau Ar ryw oerion oriau hir, Rhag i ddynion drwg eu nwydau Dorri eich aneddau'n wir; Tywydd garw, mwy nag oerni, Ni wnai nhroi oddiar fy nhaith, A chan ofal i'ch gwas'naethu Methais gysgu lawer gwaith. Daeth fy ystod at ei therfyn, Darfu'm tro oddeutu'ch tre', Un galenig wyf yn ofyn Am fy llafur yn y lle; Chwi sy'n meddu da a moddion-- Digon sy'n eich llety llawn,-- Gwnai ychydig o'ch gweddillion DIC a'i deulu'n llawen iawn. LLWYDD GROEG. Awdl ar fuddugoliaethau diweddar y Groegiaid ar y Tyrciaid. Llwydd, llwydd, fwyn arwydd, i fanerau--Groeg, Hir rwyged ei llongau Bob rhes o lu gormes gau, Drwy'r moroedd draw a'r muriau. "A llwydd gyfarwydd a fo I'w Rhyddid, yn eu rhwyddo: Na lanwed yn oleuni, Cafn y Lloer {33} uwch cefn y lli'; Ond isel, isel eisoes Drwy gred ymgrymed i'r Groes. A thra tonn, Marathon, a muriau, A rhin milwyr yr hen ymylau, A gaent ffyniant gynt a hoff enwau, O'u iawn barodrwydd, yn eu brwydrau, Gwasgarer, gyrrer dan gaerau,--yn haid, Weis Soldaniaid, isel eu doniau." [Marathon. "A thra tonn, Marathon, a muriau, A rhin milwyr yr hen ymylau.": alun33.jpg] Fal hyn o bob dyffryn deg, Ac ynys a gylch gwaneg; O'r tyrau muriau mawrion, Mannau dysg a min y donn,-- Y glau Awen
PREV.   NEXT  
|<   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36  
37   38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

muriau

 

Marathon

 

milwyr

 

ymylau

 

llwydd

 

gwaith

 
LLWYDD
 

aneddau

 

moddion

 
ddynion

gweddillion

 

nwydau

 

llawen

 

ychydig

 
oddeutu
 

naethu

 
Methais
 

oddiar

 

nhaith

 

galenig


fuddugoliaethau
 

Tywydd

 

therfyn

 

llafur

 

moroedd

 
gyrrer
 

Gwasgarer

 

brwydrau

 

gaerau

 

barodrwydd


ffyniant

 

Soldaniaid

 

doniau

 

Mannau

 

mawrion

 
gwaneg
 

alun33

 
dyffryn
 

ymgrymed

 

llongau


rwyged

 
gormes
 

Tyrciaid

 

Groegiaid

 

Llwydd

 

fanerau

 
arwydd
 

gyfarwydd

 
eisoes
 
oleuni