FREE BOOKS

Author's List




PREV.   NEXT  
|<   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37  
38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  
a glywodd Y llais, a'r adlais a rodd Groeg hen, yn gwiriaw cynnydd Ei golau ddawn ac ail ddydd. Ar ystlysau ei mynyddau, A'i ffynhonnau hoff yn unawl, Gwelwyd chwithau, a'ch telynau, Hen dduwiesau hoen ddewisawl; Yn galw o'i nych i'w goleu'n ol--eich gwlad, Ac iawn fwriad, a gwe anfarwawl. Ac wrth wych adlais, a gwyrth eich odlau, Cysgodolion y diwydion dadau, Yr aml areithwyr, y milwyr hwythau, Gwyr fu o ddinam ragoraf ddoniau, A neidiant, beiddiant o'u beddau,--a'u plant A iawn gynhyrfant hwy i gain arfau. Mae Pindar, oedd gar gorwyllt, A dawn ei gan o dan gwyllt; Tyrtaeus yn troi tuedd, I roi clod i wyr y cledd: "O! (meddant,) p'le mwy addien, Yn gwrr c'oedd, nag yw'n Groeg hen? Ein gwlad fwyn, o glod a fu, Unwaith, yn mawr dywynnu, Eto'i gyd ytyw a'i gwedd, A'i rhannau yn llawn rhinwedd: Ym mro bon y mae hir haf, Ber awel a byrr aeaf. Yr haul y sy'n rheoli, Heb roi haint, ar ei bro hi; Mae nos, yn ei mynwesydd, Megis chwaer ddisglaer i ddydd; Aml y lle, ym mol ei llawr, A mannau'r harddaf mynawr; Hemaetus felus y fydd, A diliau mel ei dolydd; A'i ffrwythydd gwinwydd, fal gynt, Di-odid mai da ydynt. Holl natur bur heb wyro, Sy'r un fraint i'r seirian fro, A phan oedd, yn hoff ei nerth, Briod-fan pob dawn brydferth. "Yma gwir Ryddid, a'i myg aur roddion, Sef celfyddydau a doniau dynion: Rhin a roi eil-oes i'r hen wrolion, A gair odiaethawl i'w gorau doethion, A wnaent gynt i helynt hon--anrhydedd, Ynt, (ddi-hoff agwedd) o tan ddiffygion." Wrth eu haraith, effaith ddig, Dawn y wlad, yn weledig, Fal yspryd tanllyd o'u tu, A wnae'n anadl enynnu,-- Gan ddangos, yn achos Ner, A'i fendith, a'i gyfiawnder, Y mawr fri o dorri'r did, I ymroddi am Ryddid. Pwy ar alwad, a piau wroliaeth, Ni ddaw i'w dilyn, a nawdd o'i dalaeth, A rhin fal arwyr yr hen filwriaeth, Draw a hwylient i Droia ehelaeth, Os y goll o Ryddid sy' gwaeth--na'r hen Golled o Helen, gai hyll hudoliaeth? Hen anghrist, un athrist oedd, O'r tu arall i'r tiroedd, A gododd,--gwaethodd drwy'r gad, Ar filoedd i'w rhyfeliad: Un oedd o'r rhai aneddant Uffern boeth yn ei ffwrn bant,-- Hoffai lid a gofid gau, A'i llwydd ydoedd lladdiadau; Seirph tanllyd, gwaedlyd eu gwedd, Gwenwynig, (gwae anhunedd) Ei gwallt oedd,--a gwyllt eiddig, Rhag hedd oedd dannedd ei dig; Ei llygaid yn danbaid des Oedd uffernawl ddwy ffwrnes; A'u sylwedd, o'r iseloedd, A'u mawr lid, tra marwawl oedd. O! pa ryfel, a'i uchel ochain, Dial a'i
PREV.   NEXT  
|<   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29   30   31   32   33   34   35   36   37  
38   39   40   41   42   43   44   45   46   47   48   49   50   51   52   53   54   55   >>  



Top keywords:

Ryddid

 

tanllyd

 

gwyllt

 

adlais

 

marwawl

 

effaith

 

haraith

 

yspryd

 

weledig

 
ymroddi

ddangos
 

gyfiawnder

 

fendith

 
enynnu
 

celfyddydau

 

roddion

 
doniau
 

dynion

 
brydferth
 

ochain


anrhydedd
 

agwedd

 

ddiffygion

 

iseloedd

 

helynt

 

wrolion

 

odiaethawl

 

wnaent

 

doethion

 

Uffern


aneddant

 

Hoffai

 

danbaid

 
filoedd
 

rhyfeliad

 

llygaid

 

dannedd

 
eiddig
 

anhunedd

 
Gwenwynig

gwaedlyd
 
llwydd
 

ydoedd

 

Seirph

 

lladdiadau

 

gwaethodd

 

gododd

 

hwylient

 
filwriaeth
 

sylwedd