h bardd i wneud pryddest anghomon,
A'r testyn oedd ci Ty'n y March,
Dechreuodd yng nghwymp yr angylion,
A'r cwn aeth at Noah i'r arch;
'Rol canu pum mil o linellau,
Gwnaeth bennill i'r ci yn y pen;
Paham na bae beirdd y pryddestau
Yn taro yr hoel ar ei phen?
Aeth llencyn am dro gyda'i gariad,
A soniai mor braf oedd yr hin,
A'i bod hi mor bethma yn wastad
Os na fyddai'r tywydd yn flin;
Pam na fuasai'r llelo anghelfydd
Yn gofyn addewid gan Gwen,
A siarad am fodrwy lle'r tywydd,
A tharo yr hoel ar ei phen?
Ebrill 19, '75.
CYMRU FU, A CHYMRU FYDD.
"I'r gad!" "I'r gad!" ddaw gyda'r gwynt
O faesydd gwaedlyd Cymru gynt,
I'r gad i gyd, i'r gad ar goedd,
Ar creigiau'n clecian gan y floedd;
Er treiglo am fil o oesau chwith,
Mae'r floedd "I'r gad" heb farw byth;
Mae fel yn adsain nos a dydd,
Mai "Cymru fu a Chymru fydd."
Ar faesydd gwaedlyd Cymru fu
Fe dyfa blodau cariad cu;
"I'r gad" yn awr heb saeth na chledd,
"I'r gad" dan faner glaerwen hedd;
Mae'r cleddyf dur mewn hun di-fraw,
Ac arfau rhinwedd ar bob llaw;
Pelydra heulwen hanner dydd
Ar Gymru fu a Chymru fydd.
PERTHYNASAU'R WRAIG.
Mi wnes beth unwaith yn fy oes
Na wnaf mo hono mwy,
Priodais gyda geneth lan,
Y lanaf yn y plwy;
Mi wyddwn eisoes fod gan hon
Berthnasau yn y byd,
Ond chydig a feddyliais am
Briodi'r rhain i gyd;
Dyna'i hewyrth, dyna'i modryb, &c., &c.
Pan b'wyf yn gofyn i ryw ffrynd
I droi i mewn i'r ty,
I gael ymgom am hanner awr
O hanes dyddiau fu,
Cyn dechreu siarad gylch y tan,
Na phrofi unrhyw saig,
Fe gymer imi hanner awr
I introdiwsio'r wraig.
Dyna'i hewyrth, &c.
Mi eis i'r dref yn fore ddoe
Yng nghwmni Sion y Graig,
A dyma'm hunig neges i
Oedd prynnu watch i'r wraig;
Pan rois yr oriawr yn ei llaw,
Dywedai 'mhen rhyw hyd,--
"A brynsoch chwi ddim pob 'i watch
I'm perthynasau i gyd?"
Prynnu watch i'r lot i gyd?
Wrth weld fod pethau'n troi fel hyn,
Dechreuais fynd o 'ngho',
A dywedais yn fy natur ddrwg
Na wnai hi byth mo'r tro;
Dechreuai 'i thafod hithau fynd
I drin a hel o hyd,
Ac nid yn unig hi ei hun,
Ond unai'r lleill i gyd.
"Peidiwch byth rhoi y goreu iddo," meddai ei thad, &c., &c.
Medi 13, '75.
GORNANT FECHAN.
(Goethe).
Gornant fechan, loew, dlos,
Treiglo'r wyt y dydd a'r nos;
Beth yw'th neges? Beth yw'th nod?
I ble yn mynd?--O ble yn dod?
"'Rwy'n dod dros greigiau erch
|