;
Addurno'u dail ag ysgrif hardd
Adawaf i rai ereill,
Os caf fi alw dalen bardd
Yn ddalen cywir gyfaill.
Paid byth a meddwl, gyfaill mwyn,
Am gyfeillgarwch trylen,
Y gall yr awen byth ei ddwyn
I bennill ar un ddalen;
Na, na, mae cyfeillgarwch byw
Yn uwch, yn is ei syniad,
Mae'n hirach, lletach, dyfnach yw
Na holl ddalennau'r cread.
Ond un peth yn y ddalen hon
Sy'n hynod debyg iddo,
Mae'n berffaith wyn a phur ei bron
Cyn i fy llaw ei britho;
Peth arall yn y ddalen wen
A ddeii gymhariaeth eto,
Mae cyfeillgarwch pur fel llen
Yn hawdd i weled trwyddo.
Gall llaw ddiystyr ddod ryw dro
I rwygo hyn o ddalen,
Pan fyddwn ni ein dau'n y gro
Heb fywyd, gwres, nac awen;
Gall dwylaw malais ddod ryw bryd
I aflonyddu'n heddwch,
Ond gofyn gwaetha dwylaw'r byd
I rwygo'n cyfeillgarwch.
DEWCH I GNEUA.
GEIRIAU RHANGAN (Part Song).
(Y Gerddoriaeth gan Mr. D. Lewis, Llanwrtyd).
O dewch i gneua tua'r coed,
Fa, la, la,
Yn llawen galon, ysgafn droed,
Fa, la, la;
Cawn eistedd dan y gwyrddion ddail,
A chwareu ym mhelydrau'r haul,
A thorri cneuen bob yn ail,
Fa, la, la.
Cawn weld dedwyddwch 'deryn bach,
Fa, la, la,
Yn trwsio pluf ei aden iach,
Fa, la, la;
A'i weld yn esgyn fry i'r nen,
Neu'n canu ar y gainc uwchben,
A ninnau'n canu wrth fon y pren,
Fa, la, la.
Ar ol yspeilio'r llwyni cyll,
Fa, la, la,
Cawn ddychwel adref gyda'r gwyll,
Fa, la, la;
Cawn gydymdwymno a mwynhau
Wrth danllwyth mawn y bwthyn clau,
A chanu can, a thorri cnau,
Fa, la, la.
LOLIAN A LILI.
O'r anwyl, y mae fy rhieui
Am imi roi 'mwriad ar Mari,
Tra gwyddant eu dau
Nad allaf fwynhau
Fy hunan heb lolian a Lili.
Be waeth am athroniaeth rhieni?
Anghariad yw ceisio 'nghynghori,
Mae rheswm mor bwl
Yn siarad fel ffwl
Er pan eis i lolian a Lili.
Gofynwyd im' gynnyg ar Gweni,
Sy' a dwyfil o wyn ar lan Dyfi;
Pob parch i Gwen fwyn
A'i defaid a'i hwyn,
Ond gwell gen i lolian a Lili.
Fe drinir fy mod yn pendroni,
A mod i 'n rhoi 'nhraed yn y rhwydi;
Mae 'nhraed ddigon rhydd,--
Fy nghalon i sydd
Mewn rhwyd ar ol lolian a Lili.
Gwyn fyd na fa'i'r rhaeadr yn rhewi
I atal ei gan i'r clogwyni,
Er mwyn im' gael awr
O eistedd i lawr
Yn dawel i lolian a Lili.
Pe bai gennyf ddawn i farddoni,
Anadlwn fy serch wrth fwyn odli;
Cae'r awen fad rydd
Bob nos a pho
|