wadau'r hanner pan;
A dywedai,--"Mi glywais fod merched yn wylltion,
Mae nhw'n magu plu'--ant i 'hedeg yn union."
O DEWCH I BEN Y MYNYDD.
(Y gerddoriaeth gan Mr. D. Emlyn Evans).
O dewch i ben y mynydd draw,
I weld yr haul yn machlud,
A natur gyda'i thyner law
Yn cau amrantau bywyd.
Fel arwr dan ei glwyf yr huan cun
Orwedda'n bruddaidd yn ei waed ei hun,
A'r llen sy'n derfyn rhwng y nos a'r dydd
A deflir dros ei wyneb prudd.
Ond wele'r ser yn filoedd
Ar hyd yr wybren dlos,
Mor ddisglair y cabolwyd
Botymau gwisg y nos;
Os yw yr haul yn dangos
Prydferthion daear gref,
Mae'r nos, er twylled ydyw,
Yn dangos mwy o'r nef.
OS YDYM AM FYND TRWY Y BYD.
Os ydym am fynd trwy y byd
Heb gwrdd a phrofedigaeth,
A chael yr haul uwch ben o hyd,
Heb gwmwl siomedigaeth;
A throi gofidiau o bob rhyw,
I gyd yn fel a menyn,
Y ffordd i ni yw dysgu byw
I gyd 'run fath a'r gwenyn.
Awn fel y gwenyn at ein gwaith,
Pan d'wyna haul y borau,
Bydd melus dod yn ol o'r daith
Dan lwyth o'r golud gorau;
Dos, ddyn, i'r maes, ac yno gwel
Ryw gyfoeth ar bob cangen,
Mae Duw yn dangos lle mae'r mel
I'r sawl sydd arno'i angen.
Os gwlawia'r nen drallodion lawr,
Paid bod yn llwfrddyn claear,
A phaid a gwneud rhyw fynydd mawr
O dwmpath pridd twrch daear;
Os gweli rywdro yspryd syn,
Wel, paid a mynd i grynu,
Sylldremia yn ei wyneb gwyn,
Mae'n sicr o ddychrynu.
Os daw ynfydion ar eu taith
I gynnyg dy hyfforddi,
Dos di ymlaen i wneud dy waith
Ynghanol eu baldorddi;
Os daw celwyddau gyda'r gwynt,
'Run fath a'r gwynt darfyddant,
Mae rhaffau celwydd ym mhob hynt
Yn crogi'r rhai a'u nyddant.
Mae'n rhaid i'r storm gael rhuo'n brudd,
A ffyliaid fod yn ffyliaid,
Er hynny, synwyr wel y dydd
I gladdu pennau byliaid;
Gan hynny rhwym dy wregys cryf
Pan fflachia'r mellt yn d'ymyl,
Ac edrych am yr haul yn hyf--
Mae ef tu ol i'r cymyl.
Os wyt am gadw ar ffordd y gwir
A gochel bradus heidiau,
Gwell iti gadw'th draed o dir
Gwleidyddiaeth a'i holl bleidiau;
Mae "A. B. C." gwleidyddwyr tynn
A "V" ar ben y wyddor,
Ond main yw'r lle a geir i'r hyn
A elwir yn egwyddor.
Paid gwisgo'th galon ar dy fraich
Os na fydd eisieu hynny,
A phaid a chrymu dan dy faich,
Ond cwyd dy ben i fyny;
Boed gwres ymroddiad yn dy waed,
A dywed trwy bob tywydd,
Fod daear rhyddid dan dy draed,
A Duw uwch ben yn llywydd.
MIL MWY
|