h priod byth mewn bedd
Mor bur a Duw ei human.
Gofyna teimlad eto'n brudd,--
"Beth wna'r amddifaid heddyw?
Pwy sycha'r deigryn ar y rudd
Ar ol y fam fu farw?"
Ond yn y nef uwch ben y glyn
Mae aur lythrennau telaid
Yn ffurfio'r geiriau melus hyn,--
"MAE DUW YN DAD AMDDIFAID."
Os ydyw cwpan galar du
Yn llawn o chwerw wermod,
Mae'n rhaid ei yfed, gyfaill cu,--
Cewch fel cyn dod i'r gwaelod;
Mae olwyn fawr Rhagluniaeth Duw
Yn llawn o lygaid goleu,
A gweld mae'r Hwn sydd wrth y llyw
Y diwedd cyn y dechreu.
Mae'r holl sirioldeb yn y nef,
A'r dagrau ar y ddaear,--
Mae yno'n foliant "Iddo Ef,"
Ac yma'n llawn o alar;
Mae hwn yn fyd i gario'r groes,
Mae yno'n gario'r goron,
Mae'r wylo i lawr ym myd y loes,
A'r gan tu hwnt i'r afon.
Chwef., 1875.
CWSG, FILWR, CWSG.
("Rest, warrior, rest,"--SIR W. SCOTT).
(Y gerddoriaeth gan Mr. J. H. Roberts, Mus. Bac., Cantab).
Cwsg, filwr, cwsg, aeth heibio'th gur,
Cwsg yr hun na wyr am ddeffro,
Darfu tynnu'r cleddyf dur
Ddydd a nos mewn gwaed a chyffro;
Taena dwylaw duwies hedd
Esmwyth flodau ar dy galon,
Ac o gylch dy dawel fedd,
Clywir adsain can angylion;
Nid oes gyffro yn dy fron,
Darfu rhu a thwrf magnelau,
Ond mae ar dy wyneb llon
Gysgod adgyfodiad golau.
AR GANOL DYDD.
(Er cof am Mrs. James, Ynyseidiol).
"Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth."--MARC xiv. 8.
Ar ganol dydd ei bywyd cu,
Ar ganol llwybr crefydd,
O ganol serch cyfeillion cu,
O ganol cartref dedwydd;
Ynghanol defnyddioldeb llawn,
Ar ganol gwaith ei bywyd,
Hi ga'dd ei hun yn ddedwydd iawn
Ynghanol cylch y gwynfyd.
Nid oedd ei thaith ar hyd y glyn,--
Y glyn rhwng byd a bywyd,
Ca'dd groesi'r lleoedd tywyll hyn
Heb brofi fawr o'u hadfyd;
Y t'w'llwch sy'n y glyn, nid yw
I'r sawl mae'r Iesu'n garu,
Ond cysgod aden dyner Duw
Yn dod i'w diogelu.
Na choder colofn ar ei bedd,--
Na cherfier gair i'w chofio,
Bydd dagrau'r eglwys drist ei gwedd
Yn ddisglair byth fan honno;
Ac ar y bedd yn alar byw,
Y tlawd ollynga berlau,
Mor ddisglair, fel y cenfydd Duw
Ei hunan yn y dagrau.
Ion. 20, 1873.
RHYWUN.
(O'r Saesneg).
Mae rhywun yn dod bore fory,
Ond pwy--eich gwaethaf i ddweyd,
'Rwy' am fynd i'w gwrdd bore fory,
Fy nghalon ddwed rhaid i mi wneud;
Nid ydyw yn unrhyw berthynas,
Nid oes ganddo gyfoeth na chlod,
Ond rhywun sy'n dod bore fory,
Gwyn fyd
|