aen!
Deffroed ysbryd hyf ein teidiau
I danio mynwes ddewr pob dyn,
Mae'r ddraig yn edrych lawr o'r bryniau
Gan ddisgwyl gweled Cymru'n un;
Bu'n gwlad am oesau'n araf waedu,
Ond sych dy ddagrau, Walia Wen,
Mae seren gobaith uwch dy ben,
Daeth cledd Llywelyn i'th waredu.
Ymlaen!
CYMRU, GWLAD Y GAN.
Pa beth sy'n Nghymru, gwlad y gan,--
Ai diliau glwys, ai dolydd glan,
Ai gwastad diroedd heb eu hail,
Yn dwyn eu blodau teg a'u dail?
Na, na, nid dyna'r harddwch sydd
Yn teg addurno Gwalia rydd.
Pa beth sy'n Nghymru, gwlad y gan?
Rhaeadrau gwyllt a nentydd glan,
Clogwyni serth a chreigiau ban,
A harddwch. Eden ym mhob man!
Ac O! mae yno fwthyn cu
Sy'n werth palasau'r byd i mi.
Mae tyrrau cestyll Gwalia Wen
Yn pwyntio i fyny tua'r nen,
Gan ddweyd mai anfarwoldeb sydd
Yn eiddo dewrion Cymru rydd;
O boed i mi gael byw yn hon,
A beddrod yn ei thyner fron.
Mae adsain bloedd y dewrion fu,
Heb farw rhwng ein bryniau cu,
Ac ysbryd ym mhob awel wynt
Yn adrodd hanes Cymru gynt;
O boed i mi gael byw yn hon,
A beddrod yn ei thyner fron.
SIOM SERCH.
Daeth ef i geisio denu'r ferch,
A phlannu'i galon yn ei bron;
Cyn iddi ddysgu pwyso serch,
Fe ddysgodd garu'r llencyn llon;
Aeth ef a'r lili dyner, wen,
Oedd ar ei bron, angyles ne,
A phlannai'n ol ar galon Gwen
Hardd rosyn cariad yn ei lle.
Rhodd iddo'r cyfan feddai'n awr,
Ei geiriau mel a'i gwenau drud,
Rhodd iddo hefyd galon fawr
Yn llawn o gariad byw i gyd;
Cydwylai hi fel gwlith y nef
Pan wylai ef o dan ryw gur,
A chwarddai pan y chwarddai ef,
A'r cyfan er mwyn cariad pur.
Ond oerodd bron y llanc cyn hir,
Ac ymaith aeth gan adael hon,
Heb feddwl fawr fel treiddiai cur
Fel saeth i lawr i'w gwaedlyd fron;
Diangai gobaith teg ei wawr
'Run fath a'r lili oddiar y ferch,
Gan adael iddi hi yn awr
Wywedig ros twyllodrus serch.
TARO YR HOEL AR EI PHEN.
Mae ambell i saer gyda'i forthwyl
Yn taro yr hoelen yn gam,
Ac ambell i un sydd mor drwsgwl
A phe bai'n rhoi'r morthwyl i'w fam;
Ond hyn sydd yn iawn a dymunol,
Pan godi dy forthwyl i'r nen,
Gofala wrth daro, 'n wastadol,
I daro yr hoel ar ei phen.
Mae llawer areithiwr go ddoniol,
'Nol dodi y testyn i lawr,
Yn dwedyd pob peth amgylchiadol,
Heb son am ei destyn am awr;
Siarada mor ddiflas a phlentyn,
A thry wyn ei lygaid i'r nen,
Paham nad ai'r dyn at ei destyn,
A tharo yr hoel ar ei phen?
Aet
|