ddyfod i lawr
I chwilio am hon ymysg blodau y llawr;
I fyny mae hi, ac ni fedd y nef gu
Un lili brydferthach na Lili Cwm Du.
FFARWEL Y FLWYDDYN.
Ar noson ddrychinog, a gwyntog, ac oer,
Ysgubai'r ystormydd dros wyneb y lloer;
'Roedd delw y gaeaf ar ddaear a nen,
A thymor y flwyddyn yn dyfod i ben.
"Ffarwel," ebe'r flwyddyn, "fe ddarfu fy ngwen,
Fy meibion, y misoedd, a'm gwnaethant yn hen;
Ces amdo yn barod, o lwydrew yn haen,
A dor tragwyddoldeb sy'n agor o'm blaen.
"Ffarwel," ebe'r flwyddyn, "'rwy'n estyn fy llaw,
A honno yn wleb gan y ddrycin a'r gwlaw;
'Rwy'n mynd i fyd arall i gloddio fy medd,
A'm chwaer sydd yn dyfod wrth droedfainc fy sedd.
"Pan anwyd fi gyntaf, 'roedd gwywder ar daen,
A mynwent prydferthwch o'm hol ac o'm blaen;
Daeth gwanwyn 'rol hynny, a'r blodyn morgun
A gododd ei sedd ar ei feddrod ei hun.
"Fe chwarddai y ddaear, a gwridai yr haul,
A minnau'n ysmalio mewn glesni a dail;
A chanai y gog ei Sol-ffa y fan draw,
A'r fronfraith a ganai'r hen nodiant gerllaw.
"Daeth Mai gyda hynny a hirddydd a haf,
Ar fynwent y gaeaf daeth gerddi mor braf;
Priodais a harddwch gan gredu yn siwr
Fod llawnder Mehefin yn gyfoeth i'm gwr.
"Pryd hynny, agorai'r amaethwr ei geg,
A dywedai,--''Nawr, flwyddyn, mae eisieu hin deg;'
Ond er iddo waeddi, y gwlaw oedd yn dod,
A'r m'linydd yn diolch am ddwr ar ei rod.
"Mi gefais fy meio am wlawio cyhyd,
A gwneuthur cryn niwed i'r gwair ac i'r yd;
Ond cofiwch chwi, ddynion, beth bynnag fu'r drefn,
'Roedd Duw a Rhagluniaeth o hyd wrth fy nghefn.
"O ddiwrnod i ddiwrnod, aeth haf ar ei hynt,--
Gostyngodd yr heulwen, a chododd y gwynt;
Daeth llwydrew fel lleidr, pan giliai yr haul,
Rhodd wenwyn ym mywyd y blodau a'r dail.
"Dechreuais cyn nemawr a wylo yn hallt,--
Dechreuodd y stormydd a thynnu fy ngwallt;
Aeth haf a'i brydferthwch i mi yn ddi goel,
'Rwy' heno yn marw yn dlawd ac yn foel.
"Mi glywais y clychau yn canu mor llon,
Wrth weled babanod yn dod at y fron;
Bum i gyda'r mamau yn siriol eu pryd
Yn gwenu a siglo uwch ben llawer crud.
"Mi glywais y clychau,--daeth mab a daeth merch
At allor yr eglwys i roi cwlwm serch;
Ar ol i mi farw, d'wed gwragedd di ri',--
'Wel hon oedd y flwyddyn ro'dd fodrwy i mi.'
"Mi glywais y clychau yn brudd lawer gwaith,--
Mi welais yr elor yn myned i'w thaith;
Ar filoedd ar filoedd ce's weld yn ddiau
Y beddrod yn agor,--yn derbyn,--a chau!
"Ffarwel iti, ddaear,--ffarwel iti, ddyn,
Ffarwel yr hen bo
|