Mi cefais hwy. Nis gallaf ddweyd
Pa un ai gofid oedd yn gwneud
I'm dagrau redeg dros fy ngrudd,
Ai ynte ryw lawenydd prudd;
Ond rhedeg wnaethant fel y lli'
Pan ddaeth y newydd gynta 'i mi
Fod Mari'n wraig i John.
II.
Pan gwrddodd Mari gyda fi,
Ei dagrau redent fel y lli;
Hi deimlai'n ddedwydd ar un llaw,
Ac o'r tu arall, ofn a braw
A lanwai'i bron. Hi ddwedai'r oll
Oedd yn ei theimlad yn ddigoll;
Agorai'i bron, can's roeddwn i
Yn gyfaill mebyd iddi hi.
Datodai glo ei chalon fawr,
A dwedai'i thywydd imi'n awr,
A'r fath onestrwydd yn ei phryd
Nes teimlwn i'm teimladau i gyd
Yn toddi'n llwyr; a gwenau hon
A wnaent i minnau wenu'n llon,
A gweld ei dagrau'n treiglo'n lli
A sugnent ddagrau 'nghalon i.
Ond pan yn tynnu tua phen
Ei chwedl brudd, fy ngeneth wen
A ddwedai, gyda'i llygad du
Yn saethu teimlad ar bob tu,--
"O fel yr ofnwn wg fy mam,
Yr hon a'm gwyliodd ar bob cam:
A balchder gyda thanllyd serch
A'i gwnaeth yn ffol uwch ben ei merch.
"Priodi a wnaethum heb wybod i mam--
'Roedd hynny, 'rwy'n addef, yn bechod a cham;
Ond beth oedd i'w wneud, a pheth ddaethai i'm rhan,
Pan oedd cariad mor gryf, a minnau mor wan?
Ni allwn gyfaddef i mam er y byd,
Ond wedi priodi, ni aethom ynghyd
I ofyn maddeuant ei mynwes dinam,
Ond serch wedi'i gloi erbyn hyn oedd gan mam.
"Hi allodd gau y drws a'i gloi
Ar ol ei merch, a medrodd droi
Clust fyddar at fy ymbil taer,
A dweyd yng ngolen'r lleuad glaer,--
'Gan iti fynnu'th ffordd bob cam,
A chroesi 'wyllys gref dy fam,
Dos gydag ef, yr hoeden ffol,
A phaid a dychwel byth yn ol.'"
Fe wylai Mari'n hidl fan hon,
Agorodd holl argaeau'i bron,
A d'wedai,--"'Nawr, fy nghyfaill pur,
Cyn darfod adrodd chwedl fy nghur,
A wnewch chwi addaw'r funud hon
I gloi y chwedl yn eich bron
O wydd pob dyn trwy'r byd;
Er imi dynnu arnaf gam,
Ac er im' ddigio mynwes mam,
Fy mam oedd hi o hyd.
"Aeth heibio flwyddyn gron, fy ffrynd,
A holl dafodau'r lle yn mynd
Yn gyflym gyda'm hanes prudd,
A mam rhy falch o ddydd i ddydd
I geisio clirio'i geneth wen,
A cheisiai gadw i fyny'i phen
Drwy fynd i'r eglwys yn ei du,
Fel pe buasai'i geneth gu
Yn gorwedd yn ei thawel fedd,
Lle gorffwys pawb mewn hun a hedd."
Un noson oer, mewn gaeaf du,
Eisteddwn ar fy aelwyd gu,
Gan wylio'r marwor mawn a choed
Yn syrthio'n lludw wrth fy nhroed,
Yn ddrych o ddynion llon eu gwedd
Yn goleu i ddiffodd yn y bedd.
Fy meddwl grwydrai'n rhydd a ffol.
Pan yn ddisymwth o'm tu ol
'R
|