ydymdeimlad calon merch,
Gwreichionen olaf bywyd brau
Gyneuai'n ol dan law y ddau.
Deffroai Mari gyda hyn
I gael ei hun mewn gwely gwyn,
A gwen trugaredd uwch ei phen
Yn edrych ar ei dwyrudd wen.
Nid oedd gan wr a gwraig y ty
(Lle dodwyd Mari),--blentyn cu,
A gall mai dyna'r rheswm pam
Y carai'r rheiny gael y fam,
Er mwyn cael gwylio'i baban bach
Yn tyfu'n llencyn gwridog, iach.
Dechreuai'r bychan chwareu'n rhydd,
A rhosyn iechyd ar ei rudd,
A gweithiai'r fam a chalon rwydd
Wrth weld ei gobaith yn ei gwydd
Yn tyfu'n hogyn gwyneb crwn,
A'i serch ymglymai o gylch hwn.
* * * * *
Awn heibio i flynyddau maith,--
Fe dyfai'r llanc,--gwnai'r fam y gwaith,
Ac ni fu'r blwyddau meithion hyn
Heb ambell smotyn hafaidd, gwyn.
Edrycha'i llanc yn hoew a chryf,
A'i natur fywiog, hoenus, hyf,
A godai awydd yn ei fron
I fynd yn forwr nwyfus, llon;
Dychmygai nad oedd unrhyw ddor
Yn agor iddo ond y mor.
Fe deimlai'i fam, a theimlai'n flin,
Ond ni ddaeth gair dros drothwy'i min,
A'r bore ddaeth i'r llanc dinam
I rwygo'i hun oddiwrth ei fam.
III.
Y storm a aeth heibio, a'r dwylaw wnaent gwrdd
I gyfarch eu gilydd yn llon ar y bwrdd;
"Mae'r cyfan yn fyw," ebe'r Capten yn llon,
A diolch a gweddi yn llanw ei fron:
"Na!--arhoswch; pa le y mae William ddinam,
Y llencyn oedd newydd roi ffarwel i'w fam?"
Ond dwedai rhyw un ag ochenaid ddofn, ddofn,
"Nid ydwyf yn sicr, ond y mae arnaf ofn
Fod drwg wedi digwydd, pan ruai y gwynt,
Gan luchio a thaflu y llong ar ei hynt,"
'Roedd William yn mrigyn yr hwylbren, hir, praff,
Yn ceisio ategu yr hwyl gyda rhaff;
Fe ruthrai y gwynt, ac mewn eiliad neu ddwy
'Roedd y llanc wedi myned na welwyd ef mwy.
Y tu ol i'r llestr, draw, draw ar y donn,
Yn ymladd am fywyd, 'roedd llanc a fu'n llon,
A'i obaith a'i nerth ar ddiffygio yn llwyr,
A'r t'w'llwch yn dechreu cau amrant yr hwyr;
Ar hyn, dacw gwch yn nesau ato ef,
A'i hwyliau fel edyn rhyw angel o'r nef;
A phan yr oedd William yn suddo i lawr,
Wele forwr yn estyn ei ddeheu law fawr
I safn y dyfnderau, glafoerllyd, di rol,
Gan godi y bachgen i fywyd yn ol.
Am oriau bu'n hollol ddideimlad fan hon,
Ond rhith weledigaeth oedd fel ger ei fron;
Fe welai ei fam yn sylldremio o'r lan,
A chlywai'i hochenaid yn esgyn yn wan;
A gwelai ofidiau gordrymion a phrudd
Yn tynnu eu herydr ar hyd ei dwy rudd;
A gwelai ei gartref yn ymyl y nant,
A'r pentref, a'r felin, a'r ysgol, a'r plant,
Ac yntau ei hunan yn chwareu'n ddinam--
A deig
|