briodas,
Holwch briddellau maes Bosworth yn awr,
Yno coronwyd dymuniad y deyrnas,
Ac yno y syrthiodd gormesdeyrn i lawr;
Mae adsain y fanllef fuddugol trwy'r oesau
Yn gwibio o glogwyn i glogwyn trwy'n gwlad,
Bydd clod Harri Tudur a dewrder ein tadau
Ar ol y fath ymdrech mewn bythol fawrhad.
Esgynnwn i'n mynyddau,
A holwn hen garneddau
Sy'n cadw llwch ein tadau
Ar ol blinderus hynt;
Ateba'u llwch o'r beddau
Fod gwaed ar hyd eu llwybrau,
A myrdd o orthrymderau
Yn blino Cymru gynt.
Ond wedi i'r Tuduriaid
Gael dod yn benaduriaid,
Cyduna'r holl Brydeiniaid
I ufuddhau i'w pen;
Mae aeron per y blodau
Yn tyfu'n meusydd brwydrau,
A heddwch lond calonnau
Hen deulu'r Ynys Wen.
Ar orsedd bena'r ddaear,
Dan goron hardda'r byd,
Eistedda Buddug hawddgar
Dan wenau'r nef bob pryd;
Mae gwaed brenhinol Owain
Yn llifo trwy'r llaw sydd
Yn dal teyrnwialen Prydain
Uwchben miliynnau rhydd.
Y fesen a blanwyd ar ddydd y briodas
Dyfodd yn dderwen gadarna'n y byd,
Dau begwn y ddaear yw terfyn y deyrnas,
A chariad yn rhwymo y deiliaid ynghyd;
Gogledd a deau sy'n dangos eu miloedd
O ddeiliaid i orsedd Victoria a dwng,--
"Mae gan ein Brenhines ddigonedd o diroedd
I'r llew mawr Brytanaidd i ysgwyd ei fwng."
Na foed adseiniau'n cymoedd
Yn cael eu deffro mwy
I ateb swn rhyfeloedd
Ar hyd eu llethrau hwy;
Tywysog gwlad y bryniau
A ddalio tra bo byw,
Yn noddwr i rinweddau
Dan nodded llaw ei Dduw.
Y DDRAENEN WEN.
Eisteddais dan y ddraenen wen
Pan chwarddai bywyd Ebrill cu
Mewn mil o ddail o gylch fy mhen,
A myrdd o friall o bob tu;
Eisteddai William gyda'i Wen,
Ac Ebrill yn ei ruddiau gwiw,
Tra canai'r fwyalch uwch ein pen
Ei chalon yn ei chan i Dduw;
Rhoi William friall ar fy mron,
A modrwy aur yn llaw ei Wen;
Mi gofiaf byth yr adeg hon
Wrth eistedd dan y ddraenen wen.
IFAN FY NGHEFNDER.
Dyma godl yn dwbl odli;
'E wnes y prawf o ran spri.
Aeth Ifan fy nghefnder yn ysgafn ei droed,
Ryw noson i hebrwng ei Fari;
A phan wrth y gamfa sy'n troi at Ty'n Coed,
Fe daflodd ei fraich am ei gwarr hi.
Ond cyn iddo prin i gael amser i ddweyd,--
"Pa bryd caf dy weled di eto?"
Na gwybod yn hollol pa beth oedd o 'n wneud,
Aeth awel o wynt gyda'i het o.
A phan oedd o 'n rhedeg a dim am ei ben,
I geisio, a ffaelu dal honno,
Fe welai ar ol dod yn ol at ei wen
Fod y ci wedi dianc a'i ffon o.
Heb hidio
|