dref
Am fenthyg tri a thair.
Ond os ceisia dyn, &c.
Fe ddwedodd cyfaill wrthyf fi
Y gwyddai hanes merch,
A wnaethai'r tro i'r dim i mi
I fod yn wrthrych serch;
Gwraig weddw oedd, yn berchen stor
O bopeth, heb ddim plant,
A chanddi arian lond dwy dror,
Ac yn ddim ond hanner cant.
Ond os ceisia dyn, &c.
Bum i ryw dro ers blwydd neu ddwy,
Ar bwynt priodi un;
Cyn mynd at allor llan y plwy,
Fel hyn gofynnai'r fun,--
"Mae gennyf fam a phedair chwaer
Sy'n anwyl iawn gen i,
A gaiff y rhain, wrth fegio'n daer,
I gyd fyw gyda ni?"
Ond os ceisia dyn, &c.
AWN, AWN I'R GAD.
(Canig gan Gwilym Gwent).
Awn, awn i'r gad,
Awn, awn yn awr;
Awn dros ein gwlad,
Awn, awn yn awr;
Calon y dewr
Gura yn gynt,
Baner a chledd
Sy'n chwyfio yn y gwynt;
Blaenor y llu
Sy'n arwain i glod,
A geiriau o dan
O'i enau yn dod.
Seren y goncwest sy'n gwenu fry
Dros ein hanwyl wlad;
Cael tynnu'r cledd sydd wledd i ni.
EISTEDD MEWN BERFA.
Tra'r oeddwn yn rhodio un diwrnod,
A'r haul yn tywynnu mor llon,
Mi ddaethum 'nol hir bererindod
I bentref ar ochr y fron;
A gwelwn ryw hogyn segurllyd
Yn eistedd mewn berfa fel dyn,
Gan wneud pob ymdrechion a allai
Ar ferfa i yrru ei hun;
Fel hwnnw yn union mae ambell i ddyn
Yn eistedd mewn berfa i yrru ei hun.
Os gwelwch chwi grefftwr go gywrain
Yn gadael ei fwyall neu'i ordd,
I sefyll tu allan i'w weithdy
I siarad a phawb ar y ffordd;
Neu holi am weithdai'r gymdogaeth
A hanes y gweithwyr bob un,
Heb feddwl am weithio ei hunan
Y gwaith sy'n ei weithdy ei hun;
Mae hwnnw'n lled debyg bob amser i ddyn
Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun.
Ceir ambell amaethwr dioglyd
Na welwyd erioed arno frys,
Mae'n well ganddo orwedd pythefnos
Na cholli dyferyn o chwys;
Ni chreda mewn cael ei gynhaeaf
Tra'r haul yn tywynnu ar fryn,
Ond creda mewn gadael ei feusydd
I ofal y gweision a'r chwyn;
Mae ffarmwr fel yna bob amser yn ddyn
Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun.
Pan welir masnachydd neu siopwr
Yn gadael eu masnach trwy'r dydd,
I ofal prentisiaid a chlercod,
Nid 'chydig y difrod a fydd;
Ond odid na chlywir yn fuan
Am feili yn dod i roi stop,
A'r writ mae'n ei roi i'r perchennog
Sy'n dweyd, "Aeth yr hwch trwy y siop;"
Mae siopwr fel yna bob amser yn ddyn
Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun.
Mawrth 2, '76.
Y FRWYDR.
Clywch, clywch
Y
|