Ar deulu brenneych beych barnasswn
Dilyw dyn en vyw nys adawsswn
Kyueillt a golleis diffleis vedwn
Rugyl en emwrthryn rynn riadwn
Ny mennws gwrawl gwadawl chwegrwn
Maban y gian o vaen gwynngwn
X.
Gwyr a aeth gatraeth gan wawr
Trauodynt en hed eu hovnawr
Milcant a thrychant a emdaflawr
Gwyarllyt gwynnodynt waewawr
Ef gorsaf yng gwryaf eg gwryawr
Rac gosgord mynydawc mwynvawr
XI.
Gwyr a aeth gatraeth gan wawr
Dygymyrrws eu hoet eu hanyanawr
Med evynt melyn melys maglawr
Blwydyn bu llewyn llawer kerdawr
Coch eu cledyuawr na phurawr
Eu llain gwyngalch a phedryollt bennawr
Rac gosgord mynydawc mwynvawr
XII.
Gwyr a aeth gatraeth gan dyd
Neus goreu o gadeu gewilid
Wy gwnaethant en geugant gelorwyd
A llavnawr llawn annawd em bedyd
Goreu yw hwn kyn kystlwn kerennyd
Enneint creu ac angeu oe hennyd
Rac bedin Ododin pan vudyd
Neus goreu deu bwyllyat neirthyat gwychyd
XIII.
Gwr a aeth gatraeth gan dyd
Ne llewes ef vedgwyn veinoethyd
Bu truan gyuatcan gyvluyd
E neges ef or drachwres drenghidyd
Ny chryssiws gatraeth
Mawr mor ehelaeth
E aruaeth uch arwyt
Ny bu mor gyffor
O eidyn ysgor
A esgarei oswyd
Tutuwlch hir ech e dir ae dreuyd
Ef lladei Saesson seithuet dyd
Perheit y wrhyt en wrvyd
Ae govein gan e gein gyweithyd
Pan dyvu dutvwch dut nerthyd
Oed gwaetlan gwyaluan vab Kilyd
XIV.
Gwr a aeth gatraeth gan wawr
Wyneb udyn ysgorva ysgwydawr
Crei kyrchynt kynnullynt reiawr
En gynnan mal taran twryf aessawr
Gwr gorvynt gwr etvynt gwr llawr
Ef rwygei a chethrei a chethrawr
Od uch lled lladei a llavnawr
En gystud heyrn dur arbennawr
E mordei ystyngei a dyledawr
Rac erthgi erthychei vydinawr
XV.
O vreithyell gatraeth pan adrodir
Maon dychiorant eu hoet bu hir
Edyrn diedyrn amygyn dir
A meibyon godebawc gwerin enwir
Dyforthynt lynwyssawr gelorawr hir
Bu tru a dynghetven anghen gywir
A dyngwt y dutvwlch a chyvwlch hir
Ket yvein ved gloyw wrth leu babir
Ket vei da e vlas y gas bu hir
XVI.
Blaen echeching gaer glaer ewgei
Gwyr gweiryd gwanar ae dilynei
Blaen ar e bludue dygollouit vual
Ene vwynvawr vordei
Blaen gwirawt vragawt ef dybydei
Blaen eur a phorphor kein as mygei
Blaen edystrawr pasc ae gwaredei
Gwrthlef, ac euo bryt ae derllydei
Blaen erwyre gawr buduawr drei
Arth en llwrw byth hwyr e techei
XVII.
Anawr gynhoruan
Huan arwyran
Grwledic gwd gyffgein
Nef enys brydein
Garw ryt rac rynn
Aes elwrw budyn
Bua
|